Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 17 Mawrth 2020.
A gaf i ddiolch i Jack Sargeant am hynna? Llywydd, ymhlith y mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd fu cyhoeddi ein strategaeth unigrwydd ac ynysu cymdeithasol gyntaf, 'Cysylltu Cymunedau'. Cefnogir hon gan £1.4 miliwn dros dair blynedd, yn dechrau yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae'n amlygu pwysigrwydd caredigrwydd wrth leihau'r teimladau o unigrwydd ac ynysu cymdeithasol.