Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 17 Mawrth 2020.
Rwy'n aros yn eiddgar am y datganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am fusnes a'r economi yn ddiweddarach, a byddaf yn gofyn rhai cwestiynau am hynny. Rwy'n edrych ymlaen hefyd at ddatganiad y Canghellor. Nawr, rwyf i, fel y mae llawer o Aelodau eraill, rwy'n siŵr, wedi cael ugeiniau o negeseuon—os nad cannoedd—gan bobl sy'n poeni am effaith economaidd coronafeirws. Cynyddodd hyn ar ôl cyhoeddiad Prif Weinidog y DU neithiwr, gan y dywedwyd wrth bobl am beidio â mynd i dafarndai a chlybiau a bwytai, ond ni ddywedwyd wrth dafarndai a chlybiau a bwytai i gau, sydd yn amlwg â goblygiadau o safbwynt yswiriant. Rwy'n credu bod y cyngor hunan-ynysu diweddaraf yn dda—braidd yn hwyr, ond da—ond heb gymorth mae cynifer o'r busnesau bach hynny yn mynd i fynd i'r wal, o ganlyniad i'r cyngor diweddaraf hwnnw.
Felly, sut bydd cymorth yn cael ei ddarparu i'r busnesau bach hynny? Sut caiff cymorth ei ddarparu i'r bobl hynny a gaiff eu gorfodi i gymryd amser i ffwrdd o'u gwaith, ond nad oes ganddyn nhw ffynhonnell arall o incwm? Bydd angen cymorth ar fusnesau i dalu aelodau staff, a thalu gorbenion, tra nad oes ganddyn nhw gwsmeriaid. Nid yw'r cyhoeddiad ynghylch ardrethi busnes yn cynnwys llawer o fusnesau yn y Rhondda, oherwydd nad ydyn nhw'n eu talu beth bynnag, er bod croeso i hynny, ar gyfer y rhai y mae'n effeithio arnyn nhw.
Yn Iwerddon, bu taliad brys o €203 yr wythnos i'r holl weithwyr a phobl hunangyflogedig sydd wedi colli swydd neu fusnes o ganlyniad i COVID-19. Nawr, mae hyn wedi cael ei groesawu ledled y wlad honno, ac mae angen ei ystyried yma fel mater o frys. Cafodd y banciau eu hachub yn 2008. Mae busnesau, pobl hunangyflogedig, a'r rhai sydd ar gontractau dim oriau angen eu hachub yn awr, ar raddfa a maint tebyg. Biliynau yr wyf i'n sôn amdanyn nhw yn y fan yma ac nid miliynau. Nawr, rwy'n cydnabod bod hwn yn fater y tu hwnt i gyllidebau Cymru, ond a fyddai'r Llywodraeth yn cefnogi incwm sylfaenol ar y llinellau hynny? Ac, os gwnewch chi, a allwn ni gael datganiad yn amlinellu pa drafodaethau y gallwch chi eu cael â San Steffan i gefnogi cyflwyno cynnig o'r fath? Hoffwn i wybod hefyd beth, yn y cyfamser o ran gwarantau, y gellir ei gynnig i fusnesau i'w hamddiffyn rhag mynd i'r wal. Rwy'n siŵr y daw llawer mwy o hyn yn eglur ar ôl datganiad y Canghellor.
Fel llawer o gymunedau, yn y Rhondda, rydym ni wedi sefydlu rhwydwaith cymunedol. Y syniad yw bod gennym ni o leiaf un person ym mhob stryd i gadw llygad ar bawb sydd efallai'n gorfod aros gartref, ac mae 400 o bobl wedi cofrestru hyd yn hyn. Nawr, bydd ein gwirfoddolwyr angen cyngor ar arfer gorau ymarferol er mwyn cadw'n ddiogel a'u hatal rhag trosglwyddo unrhyw feirws i'r bobl y maen nhw i fod i ofalu amdanyn nhw. Bydd angen iddyn nhw hefyd gael blaenoriaeth o ran cael eitemau sylfaenol yn y siopau. Mewn brwydr pan mai'r rhai mwyaf ffit sy'n goroesi nid yw pobl hŷn a sâl yn ennill, felly bydd angen i ni hefyd amddiffyn pobl rhag y rhai diegwyddor. A bydd angen i ni ddarparu rhestr o nifer ddefnyddiol o weithwyr proffesiynol allweddol i wirfoddolwyr, rhag ofn bod y sefyllfa mewn cartrefi yn dirywio iddyn nhw a bod angen cymorth proffesiynol.
Felly, beth all y Llywodraeth ei wneud i helpu rhwydweithiau cymunedol a gwirfoddolwyr o ran y cwestiynau hyn yr wyf i wedi eu codi gyda chi y prynhawn yma? A wnewch chi gydnabod nad oes gan bob ardal gynghorau cymuned? Nid oes gennym ni unrhyw gynghorau cymuned yn y Rhondda. A allwn ni gael datganiad penodol ynghylch gweithredu cymunedol, gwirfoddoli, a chadw pawb yn ddiogel? Ac i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan yn rhwydwaith cymunedol y Rhondda, ewch i 'Coronafeirws—Rhwydwaith Cymunedol y Rhondda' ar Facebook, a chael gwybod sut i gofrestru yn wirfoddolwr cymunedol ar gyfer eu stryd nhw yno. Diolch yn fawr.