Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 17 Mawrth 2020.
O ran yr amserlen ar gyfer dosbarthu'r £100 miliwn i fusnesau, fe allaf i sicrhau pob Aelod ein bod ni'n ceisio gwneud hyn mor gyflym ag y gallwn ni. Fe fydd y cyfarfod ddydd Iau gyda'r cyngor datblygu economaidd yn hanfodol bwysig. Rwy'n dymuno cael cymeradwyaeth y cyngor, ein partneriaid cymdeithasol ni, at ddiben y £100 miliwn a'r meini prawf a fydd yn cael eu gosod i sicrhau bod y busnesau iawn yn cael eu cynorthwyo.
Rwy'n credu ei bod hi'n werth dweud, Llywydd, y bydd busnesau yn wynebu dewis anodd iawn. A oes angen cymryd cyfnod o seibiant hir i oroesi? A fydd y cyfnod o seibiant yn para trwy'r argyfwng presennol hwn, neu a fyddan nhw'n mynd ati i geisio ennill incwm drwy'r argyfwng? A fyddan nhw'n goroesi drwy barhau i weithio? Nawr, mae gan Lywodraeth y DU ran yn y ddwy senario. Yn gyntaf oll, mae'r Prif Weinidog wedi gofyn i Lywodraeth y DU warantu cyflogau i sicrhau bod busnesau'n gallu cynnal cyflogaeth unigolion, hyd yn oed os nad ydyn nhw yn y gweithle, ac mae hynny'n hollol iawn. Mae'r Prif Weinidog wedi codi'r cwestiwn hefyd ynghylch swyddogaeth i incwm cyffredinol. Unwaith eto, fe allai hyn fod yn hanfodol bwysig er mwyn sicrhau nad y rhai sy'n fwyaf agored i gael eu heintio â'r coronafeirws o ran eu lles a'u gwaith sy'n cael eu taro galetaf.
Yn ogystal â hynny, fe all Llywodraeth y DU fod â swyddogaeth bwysig o ran gostwng trethi a chael saib o dalu trethi, ac rydym wedi gofyn hyn iddyn nhw heddiw. Mae Llywodraeth Cymru yn gallu defnyddio rhyddhad ardrethi busnes, ac fe allwn ystyried cefnogi busnesau hefyd o ran llif arian a chostau sefydlog ar wahân i'r rhain a gymhwysir i filiau cyflogau, os yw Llywodraeth y DU yn fodlon ac yn barod i gamu i mewn fel yr amlinellais i eisoes. Ac rydym ni'n ystyried defnyddio'r £100 miliwn hwnnw at y diben hwnnw.
Rwy'n cydnabod ar hyn o bryd fod rhai sectorau, fel y dywedais i wrth Russell George, mewn gwewyr ofnadwy. Mae'r sectorau hynny'n cynnwys lletygarwch, maen nhw'n cynnwys y sector twristiaeth yn ei gyfanrwydd, rhannau o'r sector manwerthu hefyd. Mae yna alwadau hefyd gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol i sicrhau bod darparwyr gofal cymdeithasol yn gallu talu am gostau cyflog cyflogeion y mae angen i rywun weithio yn eu lle nhw, a chostau staff asiantaeth felly, o bosib. A hefyd, wrth gwrs, mae pobl hunan-gyflogedig yn wynebu penderfyniadau anodd iawn, iawn ar hyn o bryd o ran sut maen nhw am ddod drwy'r coronafeirws. Ond mae'r Aelod yn llygad ei le bod angen inni sicrhau bod gan unrhyw fusnes hyfyw heddiw obaith hyfyw o oroesi a ffynnu ar ddiwedd yr argyfwng coronafeirws.
Roeddwn i o'r farn fod y datganiad a wnaeth Arlywydd Marcon neithiwr yn rymus pan ddywedodd na fydd yna unrhyw fusnes, mawr neu fach, waeth pa mor fawr ydyw, yn cael ei orfodi i gau o ganlyniad i'r coronafeirws. Ac mae hon yn neges y gwnes i ei hailadrodd i Lywodraeth y DU. Mae angen i Lywodraeth y DU weithredu i sicrhau mai'r un fydd y sefyllfa yn y DU. Fe fydd gan y banciau masnachol, fel y dywedodd yr Aelod, swyddogaeth bwysig dros ben, ac fel y dywedodd llawer o'r Aelodau eisoes heddiw, yn 2008 fe wnaeth y cyhoedd achub croen y banciau, a nawr yn 2020 mae'n gwbl briodol fod y banciau yn gwneud eu rhan nhw drwy achub croen llawer o fusnesau sy'n hyfyw, sydd â dyfodol cryf, ond sy'n wynebu her ofnadwy ar hyn o bryd.
Fe fyddwn ni'n cyfarfod â'r banciau masnachol ddydd Iau. Mae gennyf amryw o gwestiynau i'w codi gyda nhw, gan gynnwys i ba raddau y gallan nhw wneud penderfyniadau dewisol. Yn aml, fe wneir penderfyniadau mewn pencadlys. Nid yw'r penderfyniadau hynny o reidrwydd yn adlewyrchu'r wahanol fath o economi sydd gennym ni yma yng Nghymru, yn enwedig felly mewn ardaloedd gwledig. Felly, fe hoffwn i ganfod i ba raddau y gall y banciau wneud penderfyniadau dewisol. Mae yna amryw o gwestiynau eraill y byddaf i'n eu codi gyda'r banciau. Fe fyddaf i'n ysgrifennu at yr Aelodau ar ôl y cyfarfod hwnnw i roi rhagor o wybodaeth, fel y gall yr holl Aelodau, yn eu tro, roi gwybod i'r busnesau yn eu hetholaethau neu yn eu hardaloedd nhw. Rwy'n credu ei bod yn werth dweud hefyd, Llywydd, wrth inni fynd trwy'r cyfnod adfer, y bydd galw sylweddol am gyfalaf gweithio, ac mae hyn yn rhywbeth y byddaf i'n ei godi gyda'r banc datblygu a banciau'r stryd fawr ddydd Iau.
Fy nghyngor i i'r cyhoedd sy'n teithio ac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yw na ddylen nhw ddefnyddio cludiant cyhoeddus oni bai ei bod hi'n gwbl hanfodol os credant y gallai fod ganddyn nhw symptomau. Os oes ganddyn nhw symptomau, fe ddylen ddim ond—ddim ond—defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os yw'n gwbl hanfodol ar gyfer cael y cymorth meddygol sydd ei angen. Mae'n hanfodol bwysig bod pob teithiwr yn dilyn y canllawiau a ddosbarthwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'u bod nhw'n gallu cadw eu pellter wrth ddefnyddio cludiant neu pan fyddan nhw mewn gorsafoedd.
Rwy'n falch o ddweud bod y sector bysiau eisoes wedi rhoi'r ffigurau ynghylch cost cynnal gwasanaethau yn ystod y cyfnod anodd hwn i mi. Fe fyddwn ni'n ystyried y lefel honno o gefnogaeth y gofynnwyd amdani, gan gydnabod, wrth gwrs, bod y rhwydwaith bysiau ledled Cymru yn hanfodol bwysig a bod yn rhaid ei gynnal i'r dyfodol.