Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 17 Mawrth 2020.
Rydym ni bellach yn agos at 45 munud i mewn i'r datganiad hwn ac rydym wedi cael un cyfraniad gan bob grŵp plaid. Felly, os gall Aelodau'r Senedd fod yn weddol gryno gyda'ch cwestiynau a'r atebion a roddir gan y Gweinidog—mae yna nifer o faterion wedi eu trafod eisoes. Felly, os cawn ni fod yn gryno, yna fe fyddaf i'n ceisio galw cymaint o Aelodau ag y bo modd. Y chi sydd gyntaf, Angela Burns.