Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 17 Mawrth 2020.
Ni fyddaf i'n ymhelaethu ar lefel y gefnogaeth, y mae fy nghyd-Aelod Helen Mary Jones, eisoes wedi mynd ar ei hôl, heblaw am ddweud bod yn rhaid inni sicrhau'r lefel honno o gefnogaeth ddigyffelyb a sicrhau ei bod yn cael effaith ar lawr gwlad cyn gynted â phosib.
Hoffwn amlinellu rhai o'r elfennau sydd wedi dwyn fy sylw a chanolbwyntio ar yr hyn yr ydym ni'n ymdrin ag ef: cwmni bach sydd â £120,000 o golled mewn refeniw; gweithredwr teithiau arfordir—colledion o £30,000 eisoes; yr atyniad twristaidd—newyddion torcalonnus iddyn nhw, gyda cholli busnes. Ar yr un pryd, mae'r perchennog yn gwella ar ôl canser, mae dau o'r plant yn sefyll eu harholiadau TGAU yr haf hwn, mae gan aelodau eraill o'r teulu afiechydon difrifol. Cwmni gweithgynhyrchu diodydd y mae ei archebion yn darfod. Tafarndai'n cael ergyd ofnadwy gan fod cwsmeriaid wedi cael rhybudd i gadw draw, ond neb wedi rhoi gwybod iddyn nhw, fel yr ydym ni newydd glywed nawr, bod yn rhaid iddyn nhw gau. Gweithredwyr bysiau yn poeni y bydd eu busnesau'n methu, ac effeithiau hirdymor hynny, gan fod angen cludo plant i'r ysgol ar ôl i hyn ddod i ben, ac yn y blaen.
Rwyf i'n apelio, yn fwy na dim nawr, ar wahân i lefel y gefnogaeth, am gael mwy o gyfathrebu cadarn a chlir rhwng y Llywodraeth â busnesau. Dyna'r un peth y mae pobl yn gofyn amdano mewn gwirionedd. Rwy'n falch ein bod wedi cael y sicrwydd bod llinell gymorth Busnes Cymru, i bob pwrpas, yn llinell gymorth COVID-19 nawr. Byddwn i'n eich cynghori i gael golwg ar y wefan honno i weld a oes modd ei chryfhau. Nid wyf yn siŵr a yw'r neges yno mai dyna'r lle i fynd, er fy mod i bellach yn cynghori fy etholwyr i ffonio'r rhif hwnnw, 03000 603000. Rwyf hefyd yn gofyn iddyn nhw roi adborth imi ynghylch pa fath o wasanaeth sydd ganddynt, oherwydd mae'n mynd i fod dan bwysau difrifol. Ac fel un cwestiwn, byddwn i'n gofyn i chi: pa adnoddau ychwanegol sydd wedi cael eu rhoi i Fusnes Cymru er mwyn ateb y galw hwnnw sy'n siŵr o fod yno nawr ein bod yn gwybod mai dyna'r lle i fynd?