Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 17 Mawrth 2020.
A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn? Mae'n tynnu sylw at un maes penodol o weithlu Cymru sy'n dioddef pryder eithriadol ar hyn o bryd o ganlyniad i'r posibilrwydd o golli gwaith. Amcangyfrifwn na fyddai oddeutu 8 y cant o unigolion yng Nghymru yn gymwys i gael tâl salwch statudol. Mae hynny'n gyfran sylweddol iawn, ac felly mae angen i Lywodraeth y DU roi sylw llawn iddo, fel y mae'n cael sylw llawn Llywodraeth Cymru.