Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 18 Mawrth 2020.
Cenhadaeth ein cenedl yng Nghymru yw codi safonau ar gyfer pob un o'n plant. Roeddwn yn falch o ddarllen yn adroddiad blynyddol Estyn 2018-19 fod safonau'n dda neu'n well yn y rhan fwyaf o ysgolion Cymru. Fodd bynnag, mae'n amlwg iawn i mi fod angen gwneud gwelliannau, yn enwedig yn ein sector uwchradd.