Rhwystrau rhag Mynediad i Ddisgyblion Anabl mewn Ysgolion

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 18 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:12, 18 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Mae dwy flynedd bellach, rwy'n credu, ers i'r comisiynydd plant gynhyrchu ei hadroddiad dilynol ar hygyrchedd i ddefnyddwyr cadair olwyn mewn ysgolion yng Nghymru, 'Bywydau Llawn: Mynediad Cyfartal', a nodai nifer o feysydd i'w gwella, gyda rhai ohonynt yn ddyletswyddau llym o dan Deddf Cydraddoldeb 2010, a rhai nad oeddent. Daeth i'r casgliad, er enghraifft, fod

'gor-ddibyniaeth... ar ysgolion unigol i gynllunio ar gyfer anghenion disgyblion ag anableddau corfforol' ac mai un yn unig o'r 22 cyngor yng Nghymru a ofynnodd am farn pobl ifanc wrth ddrafftio eu strategaeth hygyrchedd. Ymhlith y pethau y dywedodd fod angen iddynt ddigwydd oedd ymgynghori â phlant a phobl ifanc a'u teuluoedd, sy'n ddyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac mae'n rhaid i hynny ffurfio rhan o'r strategaethau a chynlluniau hygyrchedd i wneud y rhain yn ystyrlon ac i gynnal hawliau plant ledled Cymru. Felly, dylai pob awdurdod lleol ac ysgol ymgynghori â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd wrth baratoi eu strategaeth neu gynllun.

Sut rydych chi'n ymateb felly i sefyllfa y tynnwyd fy sylw ati, lle dywedodd awdurdod addysg lleol, ar ôl mynychu safle ysgol, wrth rieni defnyddiwr cadair olwyn ifanc nad oeddent yn barod i dalu am yr addasiadau angenrheidiol ar gyfer y safle, a bod y disgybl yn mynd i gael ei symud i ysgol arall cyn trafod anghenion y plentyn gyda'r rhieni? Yn ffodus, roedd y rhieni'n deall y gyfraith, eu hawliau datganoledig a heb eu datganoli, ac maent bellach yn ymgysylltu, ond dim ond am eu bod wedi brwydro i wneud hynny, ac maent yn trafod addasiadau amgen arfaethedig. Sut, felly, ddwy flynedd ar ôl yr adroddiad allweddol hwnnw, y gallwch neu y byddwch yn ail-ymgysylltu ag awdurdodau addysg lleol, gan fod rhai ohonynt yn dal i weithredu'r arferion hynafol a gwahaniaethol hyn?