Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 18 Mawrth 2020.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cefnogi sefydliadau fel yr Urdd. Byddai fy etholaeth i wedi elwa o'r ffaith y bwriedid cynnal yr eisteddfod yr Urdd benodol hon yn Ninbych, sydd ychydig y tu allan i Orllewin Clwyd, ond sydd, er hynny, yn effeithio'n sylweddol ar fusnesau twristiaeth lleol yn benodol.
Tybed pa becyn cymorth y gallech ei adeiladu o amgylch y cymunedau a oedd yn edrych ymlaen at allu croesawu pobl o bob cwr o Gymru, ac yn rhyngwladol yn wir, i ddigwyddiadau fel eisteddfod yr Urdd, oherwydd, yn amlwg, maent yn mynd i fod dan anfantais sylweddol o ganlyniad. Bydd llawer ohonynt wedi cael archebion, ac mae'n rhaid iddynt eu canslo yn awr, er y byddant wedi gorfod talu am rai pethau eisoes.
Felly, pan fydd gennych ddigwyddiad arwyddocaol fel hwn wedi'i ganslo, a oes cymorth penodol y gallech ei gynnig er mwyn digolledu'r rhai sydd eisoes wedi talu symiau sylweddol er mwyn paratoi ar eu cyfer?