Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 18 Mawrth 2020.
Weinidog, yn amlwg rwy'n derbyn yn llwyr nad yw cysylltiadau rhyngwladol yn fater sydd wedi'i ddatganoli, ac mai'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad sy'n arwain ar y materion penodol hyn, ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i Gymry dramor yw deall a allwn ni mewn unrhyw ffordd chwarae ein rôl yn rheoli gwybodaeth y gallem ei chael gan ein hetholwyr. Ac rwy'n datgan buddiant: mae gennyf fab dramor, sydd i fod i ddychwelyd ddiwedd y mis hwn, ynghyd â fy nai. Mae hynny'n ystyriaeth arbennig o heriol ar hyn o bryd, hynny yw, yn enwedig gan fod y cwmni hedfan yn gwrthod aildrefnu. Felly, a yw'n well inni gyfeirio etholwyr at ein Haelodau Seneddol yn y gymdogaeth, neu a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gyfryngau yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad y gallwn ni, fel Aelodau Cynulliad, chwarae ein rhan i drosglwyddo'r wybodaeth honno iddynt? Y peth olaf y dylem ei wneud yw drysu sefyllfa sydd eisoes yn ddryslyd a dyrys iawn.