Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 18 Mawrth 2020.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n siŵr y byddai gennych ddiddordeb mewn clywed bod tad Gweinidog yr economi yn arfer gweithio yn y lle roeddech yn sôn amdano, felly mae hynny'n ddiddorol iawn.
Gwn fod y dwristiaeth a nifer y twristiaid sy'n cael eu denu gan ein rheilffyrdd cul, ac fel y dywedwch, ein rheilffyrdd safonol, yn dod â chyllid sylweddol i economi Cymru. Felly, mae hynny'n rhywbeth rydym yn ei drysori. Mae'r brwdfrydedd dros y sector hwn yn werth ei weld mewn gwirionedd, yn enwedig nifer y gwirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser. Felly, ni allaf ddweud wrthych a yw hynny—. Mae'n ymddangos yn syniad da rhoi'r rheilffyrdd cul a'r rhai safonol at ei gilydd mewn pecyn hyrwyddo. Efallai fod rhywfaint o sensitifrwydd ynglŷn â hynny, ond mae hynny'n rhywbeth y gallwn ei ystyried efallai ar ôl i'r argyfwng hwn dawelu.