Part of the debate – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 1 Ebrill 2020.
Lywydd, yng Nghymru, mae grŵp COVID y Cabinet yn cyfarfod bob bore Mercher. Mae'n cael adroddiadau am y datblygiadau diweddaraf gan y prif swyddog meddygol, prif weithredwr GIG Cymru, y ganolfan cydgysylltu argyfyngau a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Er mwyn cydnabod y sefyllfa eithriadol o ddifrifol rydym yn ei hwynebu, rwyf wedi gwahodd arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru i ymuno â'r grŵp hwnnw. Rwy'n ddiolchgar iawn i Paul Davies ac i Adam Price am dderbyn y gwahoddiad.
Mae gwaith trawsweinyddol yr wythnos hon wedi arwain hefyd at gytundeb ffurfiol drwy'r mecanwaith cymorth milwrol i awdurdodau sifil er mwyn i gymorth cynllunio logisteg gael ei ddarparu yng Nghymru. O ganlyniad, mae cymorth y lluoedd arfog bellach ar gael i'n canolfan cydgysylltu argyfyngau ac i wasanaethau cyhoeddus yn eu hymdrechion i ymladd y clefyd. Rwy'n ddiolchgar iawn am gyflymder a graddfa'r cymorth a roddir gan y lluoedd arfog yn awr.
Lywydd, pan gyfarfuom ddiwethaf, darparodd y Senedd gydsyniad deddfwriaethol i'r Bil Coronafeirws Brys. Ers hynny mae wedi cwblhau ei daith drwy ddau Dŷ'r Senedd ac wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 25 Mawrth. Gwnaethom dynnu sylw yn ein memorandwm cydsyniad deddfwriaethol at welliannau y rhagwelem y byddent yn cael eu gosod. Gallaf gadarnhau bod y gwelliannau hyn wedi'u cynnwys yn y Bil terfynol.
Ddydd Sul diwethaf, ar gyngor y prif swyddog meddygol fod coronafeirws yn fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd cyhoeddus yng Nghymru, gwneuthum ddatganiad ffurfiol i'r perwyl hwnnw er mwyn sbarduno pwerau dan Atodlen 22 o'r Ddeddf Coronafeirws. Mae'r pwerau hynny'n caniatáu cyhoeddi cyfarwyddiadau i gyfyngu ar ddigwyddiadau, y modd y mae pobl yn ymgynnull a'u lleoliad, a'r defnydd o bwerau i gau safleoedd neu gyfyngu ar fynediad trwy gyfarwyddiadau. Nid yw gwneud cyfarwyddyd yn galw am ddefnyddio ei bwerau, ond mae'n sicrhau, os bydd yr angen yn codi i wneud hynny, y byddwn eisoes wedi cymryd y camau rhagarweiniol sydd eu hangen i alluogi hynny i ddigwydd. Gwneuthum y datganiad ar y sail ragofalus honno.
Lywydd, mae pwerau'r Ddeddf yn caniatáu i systemau gwneud penderfyniadau arferol gael eu haddasu ar gyfer yr amgylchiadau presennol. Ddydd Gwener diwethaf, cymeradwyais y cyfarwyddyd ymarfer a gyhoeddwyd ar y cyd ers hynny gan lywydd Tribiwnlysoedd Cymru a llywydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru. Mae cyfarwyddyd ymarfer yn caniatáu i'r tribiwnlys hwnnw barhau â'i waith hyd yn oed pan nad yw'n bosibl cynnal gwrandawiadau wyneb yn wyneb neu lle mae'r aelodau sydd ar gael yn brin. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae rheoliadau wedi'u pasio yng Nghymru i roi grym cyfreithiol i benderfyniadau a wneir i gau safleoedd gwyliau a gwersylla, hawliau tramwy cyhoeddus a mynediad i dir. Rydym hefyd wedi rhoi grym llawn i'r mesurau llawn a gyhoeddwyd ddydd Llun, 23 Mawrth.
Ar draws Llywodraeth Cymru, mae fy nghyd-Aelodau'n parhau i wneud y penderfyniadau ac i ddarparu'r cyngor sydd ei angen i gynorthwyo ein cyd-ddinasyddion ar yr adeg hynod anodd hon. Ar 26 Mawrth, ysgrifennodd Eluned Morgan at bob Aelod yn amlinellu'r camau a gymerwyd gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad i gynorthwyo gwladolion y DU sy'n dal i fod dramor. Rydym yn parhau i dynnu sylw at achosion dinasyddion Cymru mewn amgylchiadau heriol o'r fath.
Ddydd Gwener diwethaf, cyhoeddodd Julie Morgan ganllawiau newydd ar gyfer y rheini sy'n darparu gwasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg yn ystod y pandemig. Hyd yn oed yn yr amgylchiadau a wynebwn, ein nod o hyd yw cefnogi'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf ac sy'n fwyaf agored i niwed drwy ba bynnag ddulliau diogel y gellir eu defnyddio. Ddydd Gwener hefyd, cyhoeddodd Jane Hutt gyllid newydd i gefnogi gwirfoddolwyr a grwpiau trydydd sector. Mae hynny'n cynnwys £24 miliwn ar gyfer sector gwirfoddol Cymru a £50 miliwn ar gyfer cynllun danfon bwyd yn uniongyrchol yng Nghymru ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Mae dros 30,000 o wirfoddolwyr COVID-19 yng Nghymru ac rwy'n hynod ddiolchgar i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a'r cynghorau gwirfoddol sirol am bopeth y maent yn ei wneud yn eu partneriaeth â'n hawdurdodau lleol i gysylltu'r ymchwydd o wirfoddolwyr â'r tasgau sydd angen eu cyflawni.
O ran addysg, ers y penderfyniad i gau ysgolion a chanslo arholiadau'r haf hwn, rydym wedi gweithio'n gyflym i ddarparu gwybodaeth y gall fod ei hangen ar fyfyrwyr. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Kirsty Williams na fydd gofyn i fyfyrwyr blwyddyn 10 a 12, a oedd i fod i sefyll arholiadau yr haf hwn, sefyll yr arholiadau hynny yn nes ymlaen ac y bydd eu cymwysterau llawn yn cael eu darparu yn 2021. Mae dros 800 o ysgolion ledled Cymru wedi aros ar agor i gefnogi ein dysgwyr mwyaf agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol. Diolch i staff ysgolion am y gwaith y maent wedi'i wneud hyd yn hyn ac am y ffaith y bydd y mwyafrif o'r ysgolion hyn yn aros ar agor dros wyliau'r Pasg.
Lywydd, mae'r galwadau ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ein busnesau a'n dinasyddion yng Nghymru yn enfawr. Fodd bynnag, y dasg gyffredin rydym oll yn gweithio arni yw achub bywydau. Rydym yn cyhoeddi ffigurau bob dydd bellach o farwolaethau o coronafeirws yng Nghymru, ond mae pob un o'r ffigurau hynny yn fab neu'n ferch i rywun, yn rhiant, neu'n nain neu daid i rywun. Gofynnir i bob un ohonom wneud yr hyn rydym yn ei wneud er mwyn lleihau'r golled honno a'r dioddefaint hwnnw, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio'n gyfan gwbl ac yn llwyr ar y dasg honno.