Part of the debate – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 1 Ebrill 2020.
Lywydd, diolch i Angela Burns am ei chyfraniad, yn enwedig yr hyn a ddywedodd ar y diwedd. Roeddwn yn ymwybodol iawn yn fy natganiad ein bod yn defnyddio llawer o ffigurau, onid ydym? Rydym bob amser yn gofyn am ganrannau hyn a niferoedd y llall, ac rydym yn olrhain y ffigurau bob dydd, ond o ran y bobl sydd ar ben gwaethaf coronafeirws, mae pob un o'r bobl hynny'n rhywun a oedd yn bwysig iawn i rywun arall, ac ni ddylem golli golwg ar y gost ddynol honno wrth inni barhau i fynd i'r afael â'r holl heriau y mae'r clefyd hwn yn eu cyflwyno inni.
Ar y Ddeddf, mae Angela Burns yn iawn; mae'n rhoi mathau gwahanol o bwerau i wahanol fathau o awdurdodau—mae gan Lywodraeth Cymru bwerau, mae gan awdurdodau lleol bwerau, mae gan yr heddlu, wrth gwrs, bwerau gorfodi, ac rwyf wedi cael trafodaethau y bore yma gyda phrif gwnstabl arweiniol Cymru yn y maes hwn, ac rwy'n llwyr gefnogi'r ffordd y mae heddluoedd yng Nghymru yn defnyddio'u pwerau. Maent yn eu defnyddio i addysgu a pherswadio, ac ni fyddant ond yn defnyddio eu pwerau gorfodi pan na fydd y pethau hynny'n gweithio. Ond lle mae gorfodaeth yn angenrheidiol, yna, yn yr un modd, rwy'n llwyr gefnogi ein gwasanaeth heddlu yn eu defnydd o'r pwerau hynny. Mae'r rhan helaethaf o'n cyd-ddinasyddion yn ymateb yn wych i'r hyn a ddisgwylir gennym. Pan fo ambell un yn methu ac yn rhoi pobl eraill mewn perygl, rydym yn dibynnu ar ein gwasanaethau heddlu i gadw'r gweddill ohonom yn ddiogel, ac rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod bod ganddynt gefnogaeth Llywodraeth Cymru yn y gwaith anodd iawn y maent yn ei wneud.
Mae rhan o hynny, wrth gwrs, yn ymwneud â llety hunanddarpar, a gofynnais am adroddiadau penodol dros y penwythnos, gan Heddlu Gogledd Cymru a thrwy Heddlu Dyfed-Powys, ynglŷn ag a oedd y gwasanaeth heddlu yn credu bod yna fewnlif pellach o bobl i'r ardaloedd hynny. Ar y cyfan, eu barn hwy yw bod y niferoedd yn isel, a'u bod yn troi rhai pobl yn ôl. A gadewch i ni fod yn glir iawn gyda phobl: nid yw taith i lety hunanddarpar yn daith hanfodol ac felly ni ddylai pobl fod yn gwneud hynny. Mae problem wahanol gyda phobl sydd yno'n barod a pha gamau y dylent eu cymryd, ond ni ddylai unrhyw bobl newydd feddwl bod hwn yn benwythnos da i ymweld â gogledd neu orllewin Cymru; nid dyna'r ffordd y llwyddwn i drechu'r feirws.
O ran cwestiwn olaf Angela Burns, credaf mai'r pethau sy'n ein poeni yw'r pethau sy'n poeni gweddill y Deyrnas Unedig: lefelau salwch a hunanynysu ymysg staff allweddol ac a allwn lwyddo i gael cynifer â phosibl o'r bobl hynny yn ôl i'r rheng flaen; a oes gennym y cyflenwad o beiriannau anadlu y gallem fod eu hangen ar yr adeg y bydd fwyaf o'u hangen. Wrth i ni ddefnyddio ein stociau o gyfarpar diogelu personol—nid yw'n stoc ddiddiwedd; pa mor gyflym y gallwn ailstocio fel bod gennym fwy yno ar gyfer y dyfodol? Nid wyf yn credu mai mannau gwan yng Nghymru'n unig yw'r rheini. Rydym wedi dweud droeon, onid ydym, fod y Cynulliad wedi'i greu ar gyfer atebion Cymreig i broblemau Cymreig, ac nid yw coronafeirws yn broblem Gymreig; mae'n broblem fyd-eang. Yn ein cyd-destun ni, mae'n broblem i'r DU, ac mae'r pethau a wynebwn yn bethau a wynebir yn gyffredin ar draws ein gwlad yn ehangach.