Part of the debate – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 1 Ebrill 2020.
A gaf fi ddechrau drwy ofyn rhai cwestiynau ynglŷn â phrofion? A all y Prif Weinidog gadarnhau, yn groes i beth y mae'r cwmni sy'n gysylltiedig â'r cytundeb a chwalodd yn ddiweddar, sef Roche, yn ei honni o leiaf, fod cytundeb ysgrifenedig wedi'i gadarnhau gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu 5,000 o brofion y dydd? Ai'r hyn a ddeallwch yw mai'r catalydd a barodd i'r cytundeb fethu oedd cytundeb tebyg gyda Public Health England? Os yw hynny'n wir, pa hyder sydd gennych yn Public Health England—sydd, rwy'n credu, wedi cyflawni lefel is o brofi hyd yma na Chymru, pro rata—i gaffael ar ein rhan yn awr? A fyddwn yn dal i gyrchu ein capasiti ein hunain yn annibynnol o ran profion, yn ychwanegol at unrhyw beth a wneir ar sail gydgysylltiedig yn y pedair gwlad? A yw'r Llywodraeth, er enghraifft, wedi cysylltu â phrifysgolion Cymru, neu a yw prifysgolion Cymru wedi cysylltu â'r Llywodraeth, i weld a ellid defnyddio eu capasiti labordy i gynyddu lefelau profion yng Nghymru?
O ran cyfarpar diogelu personol, a allwch gadarnhau y bydd y llinell gymorth frys rydych wedi'i chreu ar gyfer pobl sy'n pryderu ynglŷn â chael cyfarpar diogelu personol ar gael i'r cyhoedd ar gyfer gweithwyr gofal a nyrsys unigol ac aelodau eraill o staff, fel y mae yn Lloegr? Dywedir wrthyf fod awdurdodau lleol sydd â phryderon ynglŷn â chyflenwad cyfarpar diogelu personol yn cael cyngor ar hyn o bryd i beidio â chaffael eu stociau eu hunain o gyfarpar diogelu personol. A allwch gadarnhau, serch hynny, eu bod yn rhydd i wneud hynny os dymunant? Yn achos gweithwyr gofal sy'n mynd i mewn i gartrefi pobl, oni ddylid eu cynghori i wisgo cyfarpar diogelu personol fel mater o drefn i ddiogelu eu hunain, ond hefyd er mwyn osgoi trosglwyddo'r feirws i'r henoed a grwpiau eraill sy'n agored i niwed?
Yn olaf, Brif Weinidog, ar waith adeiladu, mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi cyfarwyddiadau ar gyfer dod â'r holl waith adeiladu nad yw'n hanfodol i ben ar hyn o bryd. Mae gennych bŵer i wneud yr un peth yma yng Nghymru, pam nad ydych chi wedi gwneud hynny?