4. & 5. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a chynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 8 Ebrill 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 4:15, 8 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a gyflwynais ym mis Tachwedd. Mae'n sicr yn wir fod y ddadl hon yn digwydd mewn cyfnod digynsail, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am gydnabod, er bod heriau sylweddol ar hyn o bryd, bod yn rhaid inni bob amser edrych i'r dyfodol.

Rwy'n ddiolchgar i John Griffiths, Llyr Gruffydd, Mick Antoniw ac aelodau eu pwyllgorau am eu dull trwyadl ac adeiladol o graffu ar y Bil a'u hadroddiadau a'u hargymhellion dilynol. Ysgrifennais at y tri phwyllgor ar 23 Mawrth yn nodi fy syniadau mewn ymateb i'w sylwadau a'u hargymhellion. Felly, ni cheisiaf fynd i'r afael â phob un o bron i 60 o argymhellion yn yr amser sydd gennym y prynhawn yma, ond byddaf yn myfyrio ar sylwadau'r Aelodau os a phan symudwn tuag at Gyfnod 2.

Wrth gyflwyno'r Bil, dywedais fod y darpariaethau wedi bod yn destun ymgynghori helaeth. Caiff hyn ei gydnabod gan y pwyllgorau. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl randdeiliaid sydd wedi cyfrannu ac wedi gweithio gyda ni dros y blynyddoedd ar ddatblygu'r cynigion yn y Bil. Mae hyn yn cynnwys aelodau'r gweithgor ar lywodraeth leol ac is-grŵp dilynol y cyngor partneriaeth sydd wedi llunio'r Bil ac sy'n helpu i gyd-gynhyrchu'r canllawiau a'r trefniadau rheoleiddio a grëir gan y Bil. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r sefydliadau a'r unigolion a ddarparodd dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig yn ystod y cyfnod craffu hwn.

Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau i alluogi diwygio etholiadol ac yn sefydlu fframwaith llywodraethu newydd ar gyfer llywodraeth leol. Rwy'n falch bod rhanddeiliaid, yn gyffredinol, yn cefnogi darpariaethau'r Bil, fel y mae'r pwyllgorau. Felly, rwy'n falch iawn fod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi argymell bod y Senedd yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

Gan droi wedyn at fanylion y Bil, rwy'n falch bod y rhan fwyaf o Aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cefnogi ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru. Rwyf hefyd yn falch bod y pwyllgor yn cefnogi ein barn mai'r prif gynghorau sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu drostynt eu hunain pa system bleidleisio sy'n gweddu'n well i anghenion eu pobl a'u cymunedau lleol.

Rwy'n cydnabod holl safbwyntiau'r pwyllgor ar y gwelliannau arfaethedig ar gyfer Cyfnod 2 a fyddai'n caniatáu i garcharorion a phobl ifanc yn y ddalfa o Gymru sydd â dedfrydau o lai na phedair blynedd i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Nid ailadroddaf y rhesymau dros gyflwyno darpariaethau yng Nghyfnod 2 o ran rhoi'r bleidlais i garcharorion, ond gallaf eich sicrhau fy mod wedi ystyried yn ofalus yr holl bwyntiau a wnaed gan y pwyllgorau ar y darpariaethau hyn. Yn anffodus, Llywydd, rwyf wedi gorfod gwneud y penderfyniad, fel rhan o ystyriaeth ehangach Llywodraeth Cymru o'i rhaglen ddeddfwriaethol ar ddechrau ein gwaith cynllunio ar gyfer ymdopi â'r amgylchiadau difrifol yr ydym ynddynt, i beidio ag ymrwymo unrhyw adnodd swyddogol yn y dyfodol i'r gwelliant arfaethedig hwn yng Nghyfnod 2.

Llywydd, bydd yr Aelodau, rwy'n siŵr, yn ymwybodol y bydd y ddadl heddiw, os caiff y cynnig ei basio, yn caniatáu inni barhau i gynnwys gwaith yn y dyfodol ar y Bil yn ein cynlluniau ar gyfer materion y byddwn eisiau iddynt fod yn barod i'w datblygu unwaith y bydd yr argyfwng a wynebwn nawr wedi mynd heibio. Gwn fod llawer o Aelodau'n cefnogi'r Bil ac amcanion ei bolisi, a bydd pasio'r cynnig hwn heddiw yn caniatáu inni gynllunio adnoddau ar gyfer y dyfodol i weithio ar amcanion y polisi hynny yr ydym ni'n gytûn yn eu cylch.

Gan droi wedyn at rannau o'r Bil nad ydynt yn ymwneud ag etholiadau, mae llywodraeth leol wedi bod yn galw am bŵer cymhwysedd cyffredinol am flynyddoedd lawer. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid i ddynodi lle mae pwerau neu hyblygrwydd ychwanegol wedi bod o gymorth iddyn nhw gyflawni eu hamcanion.

Rwy'n derbyn argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch y ddyletswydd i annog pobl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau mewn cyrff cysylltiedig. Rwyf felly'n bwriadu cyflwyno gwelliant yn dileu'r cysyniad o awdurdodau cysylltiedig yng Nghyfnod 2.

Rwy'n cydnabod pryderon y Pwyllgor Cyllid, ar sail rhai llywodraeth leol, ynghylch cost ac ymarferoldeb y darpariaethau darlledu. Rwy'n credu bod gennym ni ddiddordeb cyffredin mewn sicrhau bod y darpariaethau'n gweithio yn y ffordd fwyaf synhwyrol ac ymarferol. Sefydlwyd gweithgor gyda CLlLC i ystyried y materion hyn ac i bwyso a mesur beth fyddai'r ffordd orau o ddefnyddio'r pŵer i wneud rheoliadau y mae'r darpariaethau hyn yn ei gynnwys i eithrio cyfarfodydd cyngor penodol o'r gofyniad i ddarlledu.

Rwy'n derbyn argymhelliad 19 y pwyllgor mewn cysylltiad â rheoli perfformiad gwael gan brif weithredwyr, ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-reolwyr Awdurdodau Lleol Cymru a Chymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-reolwyr Awdurdodau Lleol ar ddull gweithredu diwygiedig.

Mae'r pwyllgor yn gwneud nifer o argymhellion mewn cysylltiad â rhannu swyddi. Rwyf wedi ymrwymo i alluogi trefniadau hyblyg pan fo'n bosib o fewn prif gyngor, ac rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ystyried goblygiadau ehangu yn y maes hwn a pha gamau a chanllawiau y gallai fod eu hangen.

Bydd cyd-bwyllgorau corfforaethol yn darparu dull cyson i awdurdodau lleol yng Nghymru, wedi'i sefydlu mewn statud ar gyfer cydweithredu rhanbarthol. Rwy'n croesawu sylwadau'r pwyllgor ar ein cynigion. Fel y pwysleisiwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid, rwy'n fodlon ymrwymo i ddarparu asesiadau effaith rheoleiddiol llawn a chadarn ar gyfer pob darn o is-ddeddfwriaeth a wneir o ganlyniad i'r Bil hwn. Dyma'r lle gorau i asesu eu costau a'u manteision penodol.

Rwy'n croesawu'r graddau o gonsensws ymysg y rhai sy'n rhoi tystiolaeth ar yr angen am y darpariaethau yn y Bil, a'u priodoldeb, a fydd yn cyflwyno system newydd ar gyfer gwella perfformiad a llywodraethu yn seiliedig ar hunanasesu ac adolygu gan gymheiriaid. Yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, bwriadaf gyflwyno gwelliant a fyddai'n cynnwys darpariaeth yn y Bil sy'n egluro amseriad adroddiad hunanasesu.

Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi heddiw fy mod wedi cyhoeddi canllawiau: prosbectws ar gyfer uno'r prif gynghorau yng Nghymru yn wirfoddol. Paratowyd y canllawiau gan y gweithgor ar lywodraeth leol. Mae'n rhoi cyngor ymarferol ar y materion craidd y bydd angen mynd i'r afael â nhw yn rhan o'r bwriad i ddatblygu unrhyw gynnig i uno'n wirfoddol.

Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol a gwasanaethau cynghori i wella pob agwedd ar gasglu'r dreth gyngor a rheoli ôl-ddyledion. Bydd y gwaith hwn, sy'n canolbwyntio ar atal, yn parhau.

Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi gwneud nifer o argymhellion ynghylch y gweithdrefnau arfaethedig ar gyfer arfer pwerau is-ddeddfwriaethol a phwerau dirprwyedig eraill yn y Bil. Ni fu'n bosibl imi dderbyn holl argymhellion y Pwyllgor yn llawn, a rhoddais fy rheswm yn fy ymateb ysgrifenedig i adroddiad y pwyllgor.

Rwy'n cydnabod ac yn derbyn mewn egwyddor argymhelliad 32 y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Rwyf wedi ymrwymo i ddefnyddio'r canllawiau ar berfformiad a llywodraethu yn y Bil i dynnu sylw at bwysigrwydd ystyriaethau tai wrth gyflawni swyddogaethau awdurdodau lleol fel enghraifft o ble dylai cynghorau fod yn ymdrechu i wneud yn well ac nid dim ond bodloni gofynion sylfaenol. Bydd hyn yn sicrhau bod y ddarpariaeth o ran tai yn cael ei hystyried ar y cyd â'r ystod o bwerau a dyletswyddau sydd gan gynghorau fel rhan o asesiad corfforaethol ehangach o berfformiad cyffredinol y cyngor, yn hytrach nag ar ei phen ei hun.

I gloi, mae'r Bil hwn yn darparu'r pwerau a'r offer y mae llywodraeth leol wedi bod yn gofyn amdanynt. Bydd yn eu galluogi i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus modern, hygyrch, o safon uchel ar gyfer a chyda'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Rwy'n annog yr Aelodau i gytuno ar egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol y Bil heddiw. Diolch, Llywydd.