4. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 22 Ebrill 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 4:01, 22 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Weinidog. A gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad, ac a gaf fi hefyd ddiolch i chi am eich cyfarfodydd wythnosol gyda llefarwyr y gwrthbleidiau? Rwy'n credu eu bod yn amhrisiadwy, gan eu bod yn caniatáu i ni godi materion yn uniongyrchol gyda chi, yn ogystal â chael y wybodaeth ddiweddaraf. Felly, mae hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr, Weinidog. A gaf fi roi croeso diffuant i'ch datganiad? Rwy'n credu bod y cymorth ariannol sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn dda iawn hyd yma. Rwyf hefyd yn credu bod yr hyn ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw yn hollol iawn, ei bod yn bwysig i gynlluniau gan y ddwy Lywodraeth ategu ei gilydd.  

Cyhoeddodd y Canghellor gronfa'r dyfodol gwerth £250 miliwn ar gyfer busnesau newydd a'r sector technoleg, a tybed sut rydych chi'n cefnogi busnesau yng Nghymru i ddenu cyllid o'r cynllun arbennig hwnnw. Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig ystyried y Ganolfan Ymchwil Menter, a gyhoeddodd ddata yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf, rwy'n meddwl, sy'n dangos mai Cymru fyddai'n dioddef fwyaf o bosibl o ganlyniad i'r coronafeirws a'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith, ac maent wedi cynnwys manylion i gyd-fynd â hynny. Ond yn amlwg, rwy'n credu eich bod wedi dweud eich hun, Weinidog, mae gennym ganran uwch o fusnesau llai yma yng Nghymru, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, felly rwy'n credu bod angen inni addasu yn unol â hynny. 

Roedd croeso mawr i'r gronfa cadernid economaidd. O'm rhan i, roeddwn yn dweud wrth fusnesau a oedd yn cysylltu â mi 10 diwrnod neu bythefnos yn ôl: 'Os gwelwch yn dda, arhoswch. Mae'r gronfa cadernid economaidd yn mynd i lenwi'r bylchau hynny sydd ar ôl'. Rwy'n sylweddoli na all unrhyw Lywodraeth lenwi'r holl fylchau, ond roeddwn yn disgwyl i fwy o fylchau gael eu llenwi nag sydd wedi digwydd hyd yma, yn ôl yr hyn a gyhoeddwyd. Ond rwy'n gobeithio'n arw y byddwch yn cyflwyno cynlluniau pellach a fydd o gymorth i lenwi'r bylchau sy'n bodoli, ac rwy'n meddwl yn benodol am—a byddaf yn rhestru rhai o'r bylchau yn awr—TAW, er enghraifft. Mae busnesau nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW—busnesau bach yw'r rhain; nid yw'r rhan fwyaf o fusnesau bach yng Nghymru, neu nifer sylweddol ohonynt, yn mynd i fod wedi cofrestru ar gyfer TAW—wedi'u heithrio o'r meini prawf ar hyn o bryd. Felly, byddai'n dda cael cadarnhad fod y busnesau hynny, yng nghyfnod nesaf y cynllun, yn mynd i gael eu gwasanaethu. Rwy'n gwybod bod Paul Davies wedi codi hyn gyda'r Prif Weinidog yn gynharach, ond ni roddodd y Prif Weinidog ateb manwl ar y pwynt hwnnw.

Mae problem o hyd gyda'r rhai sy'n hunangyflogedig, unig fasnachwyr a ddaeth yn hunangyflogedig yn ddiweddar nad ydynt yn gallu cynhyrchu cyfrifon. Mae problem hefyd gyda'r rhai nad ydynt wedi gallu cyflwyno ffurflenni treth eto neu sydd â throsiant afreolaidd. Rwy'n meddwl yn arbennig am fusnesau sydd o bosibl yn anfonebu, felly roedd ganddynt waith ym mis Ionawr, mis Chwefror, ac anfonwyd anfonebau allan ac maent yn cael eu talu ym mis Mawrth a mis Ebrill, ond nid oes ganddynt unrhyw waith yn dod i mewn ar hyn o bryd. Felly, nid ydynt yn gallu bodloni'r meini prawf a bennwyd yng nghyllid presennol y gronfa cadernid economaidd mewn perthynas â gostyngiad o 40 y cant mewn trosiant neu elw.

Yna, mae rhai materion yn ymwneud ag ardrethi busnes rwy'n gobeithio y gallwch roi sylw iddynt. Rwy'n sylweddoli bod hyn yn gorgyffwrdd â gwaith eich cyd-Weinidog, y Gweinidog cyllid, ond mae llawer o fusnesau wedi'u heithrio, ac mae'n ymddangos i mi fod angen rhyw gymaint o dapro neu gymhwysiad ar gyfer hyn. Mae yna fusnesau, er enghraifft, gyda gwerth ardrethol o £12,500, sydd wedi'u heithrio, tra bo busnesau sydd â gwerth ardrethol o ychydig bach yn llai yn cael £10,000 o arian grant, ac mae busnesau yn y sector lletygarwch, er enghraifft, gyda gwerth ardrethol—. Rwy'n gwybod am un gyda gwerth ardrethol o £53,000 nad yw'n gallu cael unrhyw gyllid o gwbl, tra bydd busnes gyda gwerth ardrethol o tua £49,000 yn cael arian grant o £25,000. Felly, faint o dapro y gellid ei gyflwyno ym mentrau rhyddhad ardrethi busnes Llywodraeth Cymru yn y dyfodol?

Hefyd ar ryddhad ardrethi busnes, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi trosglwyddo'r arian i awdurdodau lleol yn gyflym, ond yn anffodus, mae peth gwahaniaeth rhwng awdurdodau lleol o ran sut y maent yn darparu'r cyllid yn uniongyrchol i fusnesau. Mae rhai awdurdodau lleol yn gwneud yn dda, megis Cyngor Sir Powys yn fy ardal i, a drosglwyddodd yr arian yn gyflym iawn. Felly, rwy'n cymeradwyo hynny'n fawr. Ond mae rhai awdurdodau lleol yn methu trosglwyddo'r arian hwnnw, ac mae systemau eraill yn llawer mwy biwrocrataidd.

Y sector twristiaeth—rwy'n gwybod iddo gael ei grybwyll yn gynharach heddiw. Gwelwyd dirywiad sylweddol yn y sector penodol hwn, a tybed pa gymorth pellach gan y Llywodraeth y gallwch gadarnhau y bydd yn cael ei gyflwyno i gefnogi'r sector penodol hwn. Yn amlwg, mae hynny'n hollbwysig. Hefyd, mae yna fusnesau sydd â throsiant tymhorol hefyd, yn enwedig rhai sydd angen dangos colled yn yr elw. Yn amlwg, ni fydd rhai yn gallu gwneud hynny oherwydd natur dymhorol hyn.

Hefyd, gan dynnu at y terfyn, y cyfnod adfer. A allwch chi gadarnhau mai yn y cyfnod presennol yn unig y bydd y gronfa cadernid economaidd ar waith, neu a yw yno'n fwy hirdymor? Rwy'n cymryd mai yn y cyfnod presennol yn unig y bydd ar waith, ac y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno pecyn arall mwy ar gyfer symud y tu hwnt i'r cyfnod presennol, a'n bod yn cael cymorth allan i helpu busnesau i newid eu modelau busnes, arloesi drwy dechnoleg, ac ati.

Ac yn olaf, Banc Datblygu Cymru—rwy'n falch iawn eu bod wedi trosglwyddo benthyciadau yn gyflym i bobl. Mae'n newyddion da, efallai, i ryw raddau, fod llawer o fusnesau wedi cael cymorth. Ond wrth gwrs, mae'r cronfeydd wedi sychu, felly pa gyllid ychwanegol arall y gall Llywodraeth Cymru eu sicrhau o'i hadnoddau ei hun neu gyllid Llywodraeth y DU neu arian Ewropeaidd yn ogystal?