Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 22 Ebrill 2020.
A gaf fi ddiolch i David Rowlands, Ddirprwy Lywydd, am ei gwestiynau, a hefyd am ei sylwadau caredig am y trafodaethau a gawsom, a'r cyfraniadau a wnaeth Aelodau ar draws pob plaid yn ein brwydr yn erbyn coronafeirws?
Yn sicr fe wnaf gyfleu ei ddiolchiadau, ac rwy'n siŵr eu bod wedi eu hategu ar draws y Siambr, i awdurdodau lleol, i'r banc datblygu ac i Busnes Cymru. Mae'r pwysau sydd ar bobl yn y sefydliadau hynny'n eithaf anhygoel, a chânt eu hanghofio'n aml. Yn yr un modd, gweision sifil—mae'r pwysau sydd arnynt yn anferthol ar hyn o bryd ac unwaith eto, nid ydynt yn cael eu cofio'n aml ynghanol y gymeradwyaeth i weithwyr hanfodol, ond maent yn gwneud eu gorau glas i gadw pobl yn ddiogel ac i gadw ein heconomi mor iach ag y gall fod.
Felly, rydym yn gweld bod gwefan Busnes Cymru yn cael tua 0.5 miliwn o ymweliadau yr wythnos ar hyn o bryd. Mae'r traffig i'r wefan honno'n eithaf anhygoel, ac mae eu staff yn cael tua 250 i 300 o alwadau ffôn bob dydd—tîm ymroddedig gwirioneddol dda o dros 40 o bobl sy'n dangos tosturi anhygoel at bobl sydd dan bwysau ac yn bryderus iawn ar hyn o bryd, yn ceisio cadw eu busnesau'n fyw.
Gan symud ymlaen at sut rydym yn gwario'r arian, wrth gwrs, rydych yn iawn, mae'n rhaid i ni ymdrin ag ymdrechion twyllodrus i gael gafael ar arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, ac rwyf wedi tynnu sylw at un maes penodol o gymorth lle mae'r meini prawf wedi'u gosod mewn ffordd a fyddai'n atal ceisiadau twyllodrus rhag cael eu gwneud. Y grŵp nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer TAW sydd wedi dioddef o ganlyniad i hyn yn anffodus, ond rydym yn anelu at gynorthwyo'r grŵp hwn yng ngham 2. Ond wedyn mae'r cwestiwn ychwanegol ynglŷn â pha fath o werth—yn fwy na chadw'r cwmni hwnnw'n fyw, cadw'r bobl hynny mewn gwaith—rydym yn ei gael am y buddsoddiad mewn gwirionedd.
Wel, rwy'n falch ein bod wedi gallu cyflwyno'r contract economaidd i'r broses grantiau. Rydym am sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau posibl o'n buddsoddiad. Byddwn yn ailedrych ar y busnesau hynny yn ystod y misoedd i ddod, gan sicrhau y gallant ddangos sut y maent wedi gallu datgarboneiddio, yr hyn y maent wedi'i wneud, yn yr amser ers llofnodi'r contract economaidd, i wella iechyd ac iechyd meddwl a sgiliau'r gweithlu, a sut y maent wedi tyfu hefyd, oherwydd rydym am sicrhau ein bod yn buddsoddi yn y busnesau sy'n hyfyw ar gyfer y dyfodol, busnesau sy'n gyfrifol.
Rwy'n mynd i droi'n fyr, os caf, at y sector adeiladu. Rydym wedi bod yn cymryd rhan mewn trafodaethau ar draws y pedair gwlad ynglŷn â safleoedd adeiladu a sicrhau bod cyngor i weithwyr mor glir a hygyrch â phosibl. Ond fel y nodwyd gennych, David Rowlands, nid yw'r darlun yn berffaith ac mae dehongliadau gwahanol ar hyn o bryd ar draws y pedair gwlad, ac ymhlith y cwmnïau, ac nid yw hynny'n fanteisiol iawn.
Rwy'n credu mai'r rheoliadau a gyhoeddwyd gyda'r canllaw atodol sy'n rhoi'r arweiniad cliriaf yn unman yn y DU. Ac o ganlyniad i hynny, rwyf wedi cael trafodaethau gyda Chymdeithas y Contractwyr Peirianneg Sifil a chyrff sgiliau sy'n cynrychioli'r sector adeiladu. O'r herwydd, rwy'n credu ein bod wedi gweld adeiladu mewn nifer o ardaloedd yn cael ei gynnal er mwyn cefnogi'r ymdrech iechyd a'r economi sydd ar waith ar hyn o bryd. Felly, er enghraifft, mae gwaith adeiladu ysbyty'r Grange yn parhau—mae'n agos at gael ei gwblhau. Bydd yn darparu 350 o welyau ysbyty ychwanegol amhrisiadwy. Mae'n iawn i'r prosiect adeiladu hwnnw gael ei gwblhau; yr A465 hefyd—darn hanfodol o seilwaith economaidd a fydd yn ganolog i'r economi ranbarthol a'r broses o ymadfer wedi'r coronafeirws yn y blynyddoedd i ddod.
Rydym am weld prosiectau eraill hefyd fel ffordd osgoi Bontnewydd, Caernarfon yn cael ei chyflawni o fewn yr amserlen a fwriadwyd ar ei chyfer, oherwydd ei bod mor bwysig i gymunedau ac i'r economi leol. Fodd bynnag, rhaid cadw at y canllawiau bob amser ar safleoedd adeiladu.
Rwy'n credu ei bod hefyd yn deg dweud y bydd y gwaith adeiladu'n chwarae rhan ganolog yn ystod y cam adfer. Gwyddom y gall buddsoddi mewn seilwaith ddarparu'r ffordd gyflymaf o dyfu economi allan o ddirwasgiad, ac rydym yn wynebu dirwasgiad yn awr. Felly, rydym yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio prosiectau adeiladu ar raddfa fawr, yn ogystal â phrosiectau llai o faint yn aml hefyd a fydd o ychydig mwy o fudd i gadwyni cyflenwi er mwyn cynnal gwaith yn awr, ond hefyd i ehangu cyfleoedd cyflogaeth cyn gynted ag y gallwn, pan fyddwn wedi dod trwy gyfnod y feirws.