Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 22 Ebrill 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mi gawsom ni ddigwyddiad yn gynharach y prynhawn yma pan glywsom ni'r Gweinidog iechyd yn bod yn ddilornus o gyd-Aelod a oedd yn gofyn cwestiynau cwbl ddilys yn enw craffu ac yn enw galw'r Llywodraeth i gyfrif. Ydy'r Gweinidog wedi gwneud cais i chi i gael gwneud datganiad am y digwyddiad ac a wnewch chi ymchwilio i weld a dorrwyd unrhyw reolau neu drefniadau yn ymwneud â'r Senedd a'r Cyfarfod Llawn yn sgil y digwyddiad hwnnw?