2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 29 Ebrill 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:45, 29 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

Llywydd, unwaith eto y prynhawn yma, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y datblygiadau allweddol yn ein hymateb i argyfwng y coronafeirws yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Fel ag yn yr wythnosau blaenorol, byddaf yn canolbwyntio ar y materion hynny nad ydyn nhw'n cael eu trafod yn y datganiadau a fydd yn dilyn gan Weinidogion eraill.  

Llywydd, ddoe, cyrhaeddodd cyflenwad pwysig o gyfarpar diogelu personol ym Maes Awyr Caerdydd o Gambodia. Fe'i sicrhawyd drwy ymdrechion Llywodraeth Cymru. Byddwn yn rhannu'r cyflenwad hwnnw gyda rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig os oes angen, yn rhan o'r system cyd-gymorth.

Nawr, Llywydd, rwy'n credu bod yr ymateb i argyfwng y coronafeirws yn dangos cryfderau Teyrnas Unedig ddatganoledig. Rydym ni yng Nghymru yn aelodau o gydgefnogaeth ehangach, yn cyfrannu at adnoddau a rennir ac yn eu defnyddio, ond rydym ni hefyd yn gweithredu ar ein liwt ein hunain lle mae ein pwerau datganoledig yn caniatáu i ni hybu buddiannau Cymru. Dyna pam, yn ogystal â sicrhau cyflenwadau mewn mannau eraill, yr ydym ni wedi canolbwyntio ar gryfhau ein cadwyn gyflenwi ddomestig er mwyn helpu i fodloni'r galw uniongyrchol a datblygu cydnerthedd ar gyfer y dyfodol. Mae Transcend Packaging yn Ystrad Mynach, er enghraifft, wedi ymateb i'r alwad i weithredu ac wedi newid ei brosesau i wneud miliwn o warchodwyr wyneb yr wythnos i'r GIG yng Nghymru. Mae ganddo'r gallu i ddyblu'r nifer honno os bydd angen.

Ac am y tro cyntaf, rydym ni'n agos at fod yn hunangynhaliol o ran dillad glanweithiol yng Nghymru. Erbyn diwedd yr wythnos nesaf, byddwn yn gwneud 5,000 yr wythnos, gan ddod â swyddi'n ôl o wledydd tramor a'u hangori yn ein heconomi yng Nghymru. Rydym ni wedi gweithio gyda chwmni yn y DU sy'n cyflenwi dillad glanweithiol i'r GIG, ac yn bennaf gyda thri busnes a mentrau cymdeithasol yng Nghymru. Mae dau o'r rhain yn y gogledd ac mae'r trydydd mewn ffatri yr ydym ni wedi ei chreu o'r newydd yng Nglynebwy, mewn partneriaeth â menter gymdeithasol, gan greu swyddi i 50 o beirianwyr a oedd wedi bod yn ddi-waith yn hirdymor fel arall.  

Ond, Llywydd, mae angen i mi esbonio i'r Aelodau nad yw pob cynnig o gymorth yn un dilys yn y pen draw. Mae'n ymddangos yn y pen draw bod bron i un o bob pump o gynigion sy'n cael eu hymchwilio wedyn gan yr arbenigwyr yn ein labordy profi deunyddiau llawfeddygol ein hunain ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dibynnu ar ardystiad anghywir neu'n gwbl dwyllodrus. Mae pob un o'r cynigion hynny'n cymryd amser ac ymdrech i'w hymchwilio ac mae'n anochel bod hynny'n tynnu sylw oddi wrth ymateb i'r nifer lawer mwy o bosibiliadau hael â bwriadau da.

Yn anffodus, mae rhai wedi manteisio ar y feirws hwn i dargedu pobl agored i niwed. Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd gyngor yr wythnos diwethaf ar osgoi peryglon sgamiau ar-lein a bod yn wyliadwrus o'r peryglon difrifol y mae'r rhain yn eu hachosi i aelodau agored i niwed o'n cymunedau.

Llywydd, wrth i ni roi sylw i natur frys yr argyfwng, mae'n rhaid i ni ddal i ddod o hyd i amser i gydnabod a diogelu diwylliant ac amrywiaeth Cymru. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym ni wedi parhau i ddarparu canllawiau a chefnogaeth i helpu i ymdrin â goblygiadau'r feirws, gan gynnwys £800,000 i'r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rwyf i wedi ysgrifennu at bawb yng Nghymru sy'n cadw gorchymyn Ramadan, gan nodi sut y gellir dathlu'r ŵyl yn ddiogel ac mewn ffyrdd sy'n parchu traddodiadau maith Islam. Ac mewn datganiad ysgrifenedig pwysig a gyhoeddwyd heddiw i nodi blwyddyn ers i'r Senedd hon ddatgan argyfwng hinsawdd, mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn nodi'r camau yr ydym ni'n parhau i'w cymryd i adfer colled bioamrywiaeth ac i ymateb i'r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru.

Ddoe, fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, cyrhaeddwyd carreg filltir brudd arall wrth i nifer y marwolaethau a gofnodwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fynd heibio 800. Mae pob un o'r marwolaethau hynny yn unigolyn ac yn berson sydd wedi gadael teulu a ffrindiau sy'n galaru ar ei ôl. I gydnabod anawsterau'r profiad hwnnw, cyhoeddwyd cyllid ychwanegol gennym ni yr wythnos hon i gefnogi gwasanaethau profedigaeth yng Nghymru i'w helpu i ymateb i'r galwadau ychwanegol am eu cymorth.

O ran yr economi, bydd busnesau ledled Cymru yn dechrau derbyn taliadau grant o gronfa cadernid economaidd Llywodraeth Cymru erbyn diwedd yr wythnos hon. Ers iddi agor wythnos yn ôl, mae'r gronfa wedi cael bron i 9,000 o geisiadau am gymorth. Cafodd y cynllun ei oedi ddydd Llun er mwyn caniatáu i ni ystyried pa newidiadau y gellir eu gwneud o'r profiad hwnnw cyn i ni symud ymlaen at y gyfran nesaf.

Ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, cwblhawyd yr adolygiad tair wythnos cyntaf o reoliadau coronafeirws gennym a gwnaethom rai newidiadau cymedrol ond arwyddocaol—rhai i dynhau'r rheolau ac eraill i'w llacio mewn ymateb i bryderon a godwyd. Yn y categori cyntaf, rydym ni'n eglur na ddylai gadael eich cartref am un rheswm olygu ychwanegu gweithgareddau eraill hefyd. Cadarnhawyd gennym ni hefyd bod gofynion cadw pellter corfforol yn berthnasol i'r gweithle, caffis a ffreuturau. Yn yr ail gategori, rydym ni wedi ehangu'r diffiniad o bobl agored i niwed i 'mae darparu cyflenwadau yn esgus rhesymol i adael eich cartref', ac rydym ni wedi llacio'r rheolau i ganiatáu i bobl ag awtistiaeth ac anableddau dysgu, er enghraifft, adael eu cartrefi i ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd. Rydym ni wedi ei gwneud yn eglur y caiff busnesau sy'n gallu gweithredu ar sail clicio a chasglu wneud hynny, cyn belled ag y cedwir pellter corfforol.

Llywydd, rydym ni'n cymryd y broses adolygu yn hynod o ddifrif a byddwn yn parhau i wneud hynny mewn ymgynghoriad â phartneriaid, gan gynnwys yr heddlu ac awdurdodau lleol. Rydym ni'n defnyddio'r cyfnod adolygu hwn i gynllunio ar gyfer y cam nesaf, fel y nodais yn y fframwaith a gyhoeddwyd ddydd Gwener. Dyma ddechrau sgwrs gyda phobl yng Nghymru am ein taith allan o gyfyngiadau symud, a cheir tair elfen allweddol i'r dull a nodir yn y fframwaith: rydym ni'n esbonio sut y byddwn ni'n penderfynu pryd y bydd yn ddiogel i ddechrau llacio'r cyfyngiadau presennol; rydym ni wedi nodi sut y byddwn ni'n gwerthuso dewisiadau ar gyfer y mesurau llacio cychwynnol pan fydd yr amser yn iawn; rydym ni eisiau nodi'r mesurau hynny sydd â'r risg isaf a'r effaith gadarnhaol fwyaf ar fywydau pobl a'r economi yng Nghymru. Ac rydym ni wedi cyflwyno ymateb iechyd cyhoeddus a fydd yn cyd-fynd â'r cam o lacio cyfyngiadau. Bydd hyn yn cynnwys gwyliadwriaeth, olrhain cyswllt a phrofi, yn gyflym i nodi ac ymateb i unrhyw fannau lle bydd y coronafeirws yn dod i'r amlwg, ac mae'r gwaith hwn yn cael ei arwain gan Brif Swyddog Meddygol Cymru. Ar yr un pryd, rydym ni'n gweithio i gynllunio ar gyfer y dyfodol, gan harneisio'r syniadau gorau o Gymru a chyngor arbenigol o'r tu hwnt i Gymru. Bydd Cymru ar ôl y pandemig yn Gymru wahanol iawn ac mae angen i ni ymateb gyda syniadau newydd sydd wedi eu gwreiddio yn ein gwerthoedd a bydd y Cwnsler Cyffredinol yn arwain y gwaith hwnnw.

Llywydd, byddwn yn cymryd camau gofalus a phwyllog wrth i ni ystyried llacio'r cyfyngiadau presennol. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig i geisio sicrhau dull gweithredu cyffredin. Byddwn yn gweithio gyda phobl ledled Cymru wrth i ni wynebu'r penderfyniadau anodd sydd o'n blaenau, a byddaf yn parhau i adrodd ar yr holl faterion hyn i'r Senedd bob wythnos. Diolch yn fawr.