Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 29 Ebrill 2020.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Fe hoffwn i ddechrau heddiw drwy ddiolch i'n hathrawon, cynorthwywyr addysgu, gweithwyr gofal plant, darlithwyr, a'r holl staff sy'n ymwneud ag addysg yng Nghymru. Rwy'n hynod ddiolchgar am y ffordd y mae pawb wedi ymateb i her y pandemig hwn. Diolch o galon. Rydych chi wir wedi bod yn arwyr cenedlaethol.
Mae hwn yn gyfnod heriol iawn i bob un ohonom ni, ond rwy'n falch o'r hyn y mae ein gweithwyr addysg proffesiynol wedi gallu ei gyflawni hyd yn hyn. Drwy Hwb, ein platfform dysgu ar-lein, gellir defnyddio ystod eang o adnoddau a chynnwys digidol dwyieithog mewn modd na ellid gwneud hynny erioed o'r blaen. Ac mae hyn yn golygu bod gan Gymru'r cyfrwng perffaith i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel, ond hefyd i'w galluogi i barhau i ddysgu, yn ystod y cyfyngiadau symud. Drwy gydol mis Mawrth 2020, cynyddodd y defnydd o Hwb yn sylweddol, a chofnodwyd mwy na 2.8 miliwn o achosoion o fewngofnodi. Ac mae ein ffigurau diweddaraf yn dangos, ar gyfartaledd, bod 150,000 yn mewngofnodi bob dydd. Ni oedd un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i sicrhau cytundeb trwyddedu cenedlaethol gyda Microsoft. A diolch i'r cytundeb hwnnw, gall bob un disgybl ac athro yn ein hysgolion gwladol ddefnyddio'r offerynnau Microsoft Office diweddaraf, gan gynnwys Minecraft Education Edition, ar eu dyfeisiau personol gartref.
Ac enghraifft arall o Gymru yn arwain y ffordd yw'r ffaith ein bod wedi cyflwyno Adobe Spark yn genedlaethol—y wlad gyntaf yn y byd i wneud hynny—sy'n golygu y bydd mwy na 500,000 o athrawon a dysgwyr yn gallu defnyddio Adobe Spark for Education. Rydym ni hefyd wedi bod yn gweithio gyda chewri maes technoleg fel Google, gan sicrhau bod offer fel Google Classroom ac amrywiaeth o offerynnau G Suite for Education ar gael yn y Gymraeg. Nawr, ni ddylem ni danbrisio'r cyflawniad hwn; y Gymraeg yw'r ail iaith leiaf—o ran siaradwyr—y mae G Suite ar gael ynddi.
Yn nes adref, ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i warantu'r ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim hyd nes bydd ysgolion yn ailagor, neu hyd at ddiwedd mis Awst. Gyda chefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae'r Llywodraeth hon wedi darparu £33 miliwn i helpu awdurdodau lleol i barhau i ddarparu prydau ysgol am ddim, gan helpu i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llwglyd.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais 'Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu: datganiad polisi parhad dysgu'. Nod y canllawiau hyn yw cynorthwyo pawb sy'n ymwneud ag addysg i ymdrin ag effaith y coronafeirws. Elfen bwysig o hyn yw gweithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi dysgwyr heb gyfleoedd i ddefnyddio cyfryngau digidol, a gobeithiaf allu gwneud mwy o gyhoeddiadau yn ddiweddarach yr wythnos hon o ran hyn. Rwy'n ffyddiog y byddwn ni, felly, yn gallu cadarnhau mwy o gynlluniau i ailgylchu cyfarpar presennol o ysgolion a'i ddyrannu i ddysgwyr sydd ei angen, gan ddefnyddio ein cyllid Technoleg Addysg.
Wrth gwrs, un cwestiwn mawr i bob un ohonom ni yw: pryd y bydd ysgolion yn mynd yn ôl i'r drefn arferol? Rhaid imi ddweud na fu'n fawr o gymorth i neb glywed sïon niferus o gyfeiriad San Steffan yn dweud pethau anghyson yn y cyswllt hwn. Nid yw hynny'n ffordd o ennyn hyder.
Mewn cyferbyniad, yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaethom ni gyhoeddi yr egwyddorion arweiniol y byddwn yn eu defnyddio i benderfynu pryd a sut y bydd ysgolion yn dychwelyd i ddarparu addysg ar gyfer mwy o ddisgyblion. Rwyf wedi'i gwneud yn glir y bydd hwn yn ddull graddol. Ac wrth wneud hyn, rwyf wedi rhoi sicrwydd y byddwn yn cyfleu unrhyw gyfarwyddiadau a phenderfyniadau mewn da bryd cyn unrhyw gamau gofynnol, gan sicrhau bod ysgolion a theuluoedd yn gallu cynllunio at y dyfodol.
Os gallaf nawr droi at addysg bellach, mae colegau ledled Cymru wedi cyflwyno mesurau i ymdrin â'r pandemig mewn lleoliadau addysg bellach. Ym mis Mawrth, fe wnaethon nhw ddechrau ar ddull graddol o ddysgu o bell a dysgu digidol. Mae dysgwyr yn cael cymorth i barhau â'u hastudiaethau ac i weithio tuag at gwblhau aseiniadau a chyrsiau, lle bo hynny'n bosib, gyda phwyslais penodol ar ddysgwyr agored i niwed y bydd angen cymorth ychwanegol arnyn nhw i wneud hynny. Mae colegau addysg bellach yn ganolog i'w heconomïau lleol, ac rwyf wedi rhoi sicrwydd ynghylch cyllid i GolegauCymru i gefnogi'r sector a sicrhau sefydlogrwydd i sefydliadau a'u dysgwyr yn y cyfnod hwn. Drwy Prifysgolion Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â'n prifysgolion ac rwyf eisoes wedi cadarnhau bod y moratoriwm ar gynigion diamod yn parhau i fod ar waith yng Nghymru tan 1 Mai.
Ar ôl rhoi syniad dros dro i CCAUC o'r lefelau o gyllid a allai fod ar gael i'r sector eleni, rwyf eisiau symud ymlaen ar yr adeg iawn gyda phecyn o fesurau sy'n rhoi sicrwydd i fyfyrwyr, i brifysgolion ac i'r gymuned addysg uwch ehangach. Yn y cyfamser, rydym ni wedi datblygu adnoddau ar gyfer disgyblion blwyddyn 13, sy'n gobeithio mynd i'r Brifysgol ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd yn yr hydref. Mae'r adnoddau hynny yno i helpu adeiladu sgiliau a hyder ac i'w helpu i gysylltu â phrifysgolion ledled Cymru.
Rwy'n cydnabod, hefyd, bwynt Universities UK sef y dylai pob un o'r pedair Llywodraeth barhau i weithio gyda'i gilydd ar faterion sy'n ymwneud â'r sector addysg uwch a bod maint yr her a wynebir gan y sector yn mynd ymhell y tu hwnt i'r adnoddau sydd ar gael o fewn cyllidebau llywodraethau datganoledig. Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau dull cyson o ymdrin â materion megis gofynion fisa, asesiadau wrth gefn, gofynion cyrff proffesiynol a derbyniadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. A byddwn yn parhau i weithio'n gyflym o fewn Llywodraeth Cymru a chyda'r sector ehangach yng Nghymru ar y materion hyn. Ond byddwn hefyd yn parhau i weithio ar sail pedair gwlad ar faterion megis cyllid ymchwil a chyllid gan Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. A gobeithiaf symud ymlaen o ran y materion hynny yn fuan.
Fel y bydd fy nghyd-Aelodau yn gwybod yn iawn, gall sefyllfaoedd newid yn gyflym yn ystod pandemig. Gallaf eich sicrhau, fodd bynnag, y byddwn yn parhau i weithio o fewn ac ar draws y Llywodraeth a chyda'n partneriaid i ddarparu arweiniad a chyngor ac i sicrhau diogelwch pob un o'n staff a'n plant a'n pobl ifanc. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.