4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 29 Ebrill 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:43, 29 Ebrill 2020

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Cwestiwn sydd gennyf i ynglŷn ag athrawon llanw, athrawon sydd yn gwneud gwaith allweddol iawn mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru, ond mae llawer ohonyn nhw wedi canfod eu hunain yn syrthio rhwng sawl stôl ar hyn o bryd, fel mae'r Gweinidog yn ei wybod, ac yn methu â chael cefnogaeth ar ôl iddyn nhw golli eu cyflogaeth yn ystod y cyfnod yma.

A gaf i ofyn i'r Gweinidog i gyhoeddi canllawiau cwbl eglur, fel nad oes yna unrhyw amryfusedd yn y fan hyn, fel ein bod ni'n gwybod yn union cyfrifoldeb pwy ydy cynnig cefnogaeth i athrawon llanw, a bydd ysgolion ac asiantau athrawon llanw ac awdurdodau lleol yn gwybod yn union beth ydy'r cyfrifoldebau sydd arnyn nhw a beth ydy'r sgôp sydd ganddyn nhw i sicrhau bod yr athrawon llanw gwerthfawr yma yn cael eu cefnogi drwy'r cyfnod hwn?