Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 29 Ebrill 2020.
Fel y dywedais yn gynharach, rydym wedi sicrhau bod £2 miliwn ar gael i'r sector addysg bellach i gefnogi mentrau iechyd meddwl i fyfyrwyr. Yn amlwg, mae'n rhaid iddyn nhw ddarparu'r rheini mewn ffyrdd gwahanol i'r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol, ond mae'r arian hwnnw'n ddiogel ac yn sicr, ac mae ar gael iddyn nhw ei ddefnyddio.
O ran cynllunio ar gyfer beth yn union yw'r cyfnod nesaf mewn addysg, yna gallaf eich sicrhau bod gennym ni gynrychiolydd o ColegauCymru sy'n rhan o weithgor Llywodraeth Cymru ac mae gennym ni bennaeth coleg sy'n rhan o'r grŵp hwnnw hefyd, oherwydd, yn amlwg, bydd yr hyn yr ydym yn cynghori ysgolion i'w wneud yn uniongyrchol berthnasol i golegau addysg bellach ac, mewn rhai ffyrdd, yn berthnasol i addysg uwch hefyd. Felly, rydym ni'n cadw mewn cysylltiad agos ag addysg uwch o ran y gwaith hwnnw.
A gaf i ddweud ein bod, ar gyfer myfyrwyr sy'n agored i niwed yn y sector addysg bellach, yn cynnal yr holl daliadau lwfans cynhaliaeth addysg ar hyn o bryd? Er bod elfen o bresenoldeb ynghlwm wrth dderbyn yr arian hwnnw, mae'n amlwg nad yw hynny'n briodol, ond nid ydym ni eisiau amddifadu myfyrwyr o'r adnoddau ariannol gwerthfawr hynny a'r taliadau hynny, yn ogystal â grantiau dysgu'r Cynulliad, a fydd yn parhau i gael eu talu. O ran myfyrwyr addysg uwch, gwn eu bod yn pryderu, ar ôl gadael y brifysgol, efallai, a dychwelyd i'w cyfeiriad cartref, y gallai hynny effeithio ar eu taliad benthyciad i fyfyrwyr am yr haf, gan fod cyfradd gostyngol ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n byw gartref. Ni fydd hynny'n digwydd. Byddant yn dal i allu hawlio'n llawn, p'un a ydyn nhw wedi aros yn eu prifysgol neu wedi dychwelyd adref.
Fel y dywedais yn gynharach wrth Suzy Davies, mae'r effaith bosibl ar y sector addysg uwch yn enfawr. Ein blaenoriaeth uniongyrchol yw gallu helpu gydag anawsterau llif arian uniongyrchol, ac rydym yn gwneud hynny drwy gadw mewn cysylltiad agos â CCAUC a'r sector. Rydym yn edrych wedyn i ddod â chymaint o sefydlogrwydd â phosib i'r dechrau newydd i'r flwyddyn academaidd newydd, ac yn amlwg bydd angen cefnogaeth barhaus dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, o bosib, oherwydd yr effaith—yn bennaf oherwydd colli incwm o fyfyrwyr tramor, ond nid dyna'r unig her sy'n wynebu'r sector ar hyn o bryd.