Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 29 Ebrill 2020.
Mae nifer y plant agored i niwed sy'n gymwys i fynychu ein canolfannau wedi bod yn isel, ond rwy'n falch o adrodd, ers diwedd yr hyn a fuasai'n doriad traddodiadol y Pasg, ein bod wedi gweld cynnydd yn y niferoedd hynny, a byddwn yn parhau i weithio gyda phob rhan o'r Llywodraeth a chyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau bod pob rhiant yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw. Rydym wedi cael sicrwydd gan awdurdodau lleol bod y plant hynny sydd â gweithiwr cymdeithasol wedi cael asesiad risg, a bod cyswllt yn cael ei gadw gyda'r plant hynny, naill ai gan eu gweithiwr cymdeithasol neu yn wir gan eu hathrawon. Gwyddom fod rhai plant yn agored i niwed ond nad oes ganddyn nhw weithiwr cymdeithasol, neu nad oes ganddyn nhw ddatganiad ar gyfer anghenion addysgol arbennig, a gwyddom fod ysgolion mewn sawl ardal wedi bod yn ddiwyd iawn yn gwneud archwiliadau lles ar blant y mae ganddyn nhw bryderon yn eu cylch, a byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y plant cywir yn derbyn gwasanaeth yn y ffordd gywir. Ond gadewch i ni fod yn glir: rydym wedi dweud wrth rieni'n gyson mai'r cartref yw'r lle mwyaf diogel i'w plentyn, ac ni ddylai fod yn syndod i ni pan fydd rhieni wedi cymryd y cyngor hwnnw o ddifrif ac wedi cadw eu plant gartref.
Bydd y cynllun parhad dysgu yn parhau i addasu. Fe wnaethom ni gyhoeddi'r datganiad polisi yr wythnos diwethaf. Cam nesaf y gwaith hwnnw yw datblygu a chael cytundeb ledled Cymru ar yr hyn y dylai penaethiaid ac athrawon unigol ei ddisgwyl o ran y math newydd hwn o addysg yng Nghymru, ac yn wir byddwn eisiau olrhain gwireddiad y disgwyliadau hynny sydd gennym ni mewn gwirionedd ar lawr gwlad.
O ran y rhaniad digidol, nid wyf yn ei hystyried hi'n beth pitw mai ni yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig sydd wedi sicrhau bod Microsoft Office ar gael i'w holl ddisgyblion a'i myfyrwyr. Ni yw'r cyntaf yn y byd, fel y dywedais, i sicrhau bod meddalwedd Adobe ar gael i bob myfyriwr. Rwy'n ymwybodol iawn, fodd bynnag, y bydd rhai myfyrwyr nad oes ganddyn nhw'r caledwedd na'r cysylltedd gartref i fanteisio ar ein hadnodd Hwb, ond, fel y dywedais, mae dros 150,000 o blant y dydd yn mewngofnodi i'r adnodd hwnnw. Dyna pam, fel y gwnaethom ni drafod yn gynharach yr wythnos hon, Siân, ac fel y dywedais yn fy natganiad, byddaf yn gwneud datganiad yfory ar sut y byddwn yn defnyddio buddsoddiad Llywodraeth Cymru i ddarparu caledwedd ychwanegol i fyfyrwyr nad oes ganddyn nhw'r caledwedd hwnnw ar hyn o bryd, a chysylltiadau MiFi er mwyn iddyn nhw gael y cysylltiadau data y bydd eu hangen arnyn nhw i allu defnyddio adnoddau eraill yn y dyfodol. A bydd hynny i bob plentyn—nid i grŵp dethol o blant, sydd yn ôl pob golwg yn wir dros y ffin, lle mae'r pwyslais ar y plant hynny'n sy'n cymryd dosbarthiadau arholiad yn unig. Ond bydd angen i ni weithio gyda'n hawdurdodau lleol a'n hathrawon i adnabod y teuluoedd hynny sydd angen y cymorth hwnnw. Mae'n dipyn o gamp, ond rydym ni'n gwneud y gwaith hwnnw.
O ran ffrydio dosbarthiadau ar-lein yn fyw, ar hyn o bryd, rydym yn argymell nad yw ysgolion yn gwneud hynny, ac rydym wedi argymell ar hyn o bryd nad ydynt yn gwneud hynny oherwydd materion pwysig o ran amddiffyn a diogelu plant—er mwyn y plant eu hunain a'r staff. Mae Hwb yn galluogi athrawon i recordio eu gwersi a myfyrwyr i lawrlwytho ar adeg sy'n gyfleus i'r plant hynny. Mae hynny oherwydd, fel y gallwch chi ddychmygu, mae'n bosibl bod gennym ni rai plant ifanc iawn, ac athrawon yn gweithio o'u cartrefi, pryd efallai y byddai'n amhriodol i blant weld athrawon yn eu cartrefi eu hunain. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi gweld mwy o ystafelloedd gwely fy nghyd-Aelodau nag y byddwn wedi gobeithio yn ystod y broses hon o gyfarfodydd Zoom a Skype diddiwedd—nid yw hynny mewn gwirionedd yn briodol mewn amgylchedd addysgol.
Felly, rydym yn cymryd safiad gwrth-risg ar hyn o bryd, wrth i ni werthuso'r hyn sy'n ddiogel a beth yw'r peth priodol i'w wneud yn yr amgylchiadau newydd, heriol hyn. Felly, mae'n ddigon posib y gallwn ni newid y cyngor hwnnw, ond, ar hyn o bryd, ni argymhellir ffrydio gwersi'n fyw gan athrawon yn eu cartrefi i gartrefi plant—gan gydnabod hefyd y gall athrawon weld rhywbeth ar y sgrin honno y gellid ei gamddeall, ond y byddai dyletswydd broffesiynol arnyn nhw i adrodd am yr hyn a welsant. Felly, nid yw hi mor rhwydd â dweud y gallwn ni ganiatáu i athrawon ffrydio gwersi byw mewn amser real. Byddwn yn myfyrio ar hyn, byddwn yn parhau i gael trafodaethau gydag ymarferwyr addysgol a'r undebau, ac efallai y bydd y polisi hwnnw'n esblygu dros amser, ond, ar hyn o bryd, nid ydym yn ei argymell.