Part of the debate – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 6 Mai 2020.
Rydym yn cyfarfod am y tro cyntaf fel Aelodau o’r Senedd yn Senedd Cymru, gyda’n henw bellach yn adlewyrchu ein rôl fel Senedd ddemocrataidd ein cenedl. Er bod ein henw wedi newid yn ffurfiol heddiw, mae ein blaenoriaeth yr un fath ag y bu dros yr wythnosau diwethaf—ymateb i argyfwng y coronafeirws. Yn fwy nag erioed, mae ein dinasyddion yn disgwyl Senedd genedlaethol gref sy'n gweithio er budd pobl Cymru.