Part of the debate – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 6 Mai 2020.
Lywydd, a gaf fi ddechrau drwy ddweud bod yr holl dystiolaeth a grybwyllais yn fy ateb cyntaf i Paul Davies, heblaw am astudiaeth beilot Iechyd Cyhoeddus Lloegr o'r chwe chartref gofal yn Llundain, yn dystiolaeth gyhoeddus? Mae ar gael i unrhyw aelod o'r cyhoedd sy'n dymuno’i gweld, gan gynnwys Aelodau Cynulliad, ac fe wnaf gadarnhau a yw astudiaeth Iechyd Cyhoeddus Lloegr hefyd yn gyhoeddus.
O ran cynllun peilot yr ap ar Ynys Wyth, mae Llywodraeth Cymru yn aelod o'r grŵp goruchwylio sy'n datblygu'r ap hwnnw, fel Llywodraeth yr Alban. Mae angen datrys materion sy'n codi mewn perthynas â data, fel y dywedodd Paul Davies, a diben arbrawf Ynys Wyth yw gweld a yw’r ap mor llwyddiannus â’r disgwyl. A bydd yn gwybod ein bod wedi cael sawl achos yn ystod argyfwng y coronafeirws lle nad oedd rhywbeth a oedd yn edrych yn addawol iawn yn gallu cyflawni'r addewid hwnnw, a dyna pam fod peilot Ynys Wyth mor bwysig. Ond gobeithiaf y bydd yn llwyddiant, a gobeithiaf y bydd modd datrys y materion sy'n ymwneud â phreifatrwydd data, gan fy mod am allu argymell yr ap i bobl yng Nghymru, oherwydd po fwyaf o bobl sy’n defnyddio’r ap, y mwyaf effeithiol y bydd.
Felly, y sefyllfa yr hoffwn fod ynddi yw un lle gallaf ddweud yn hyderus wrth bobl yng Nghymru fod hyn yn rhywbeth y gallant ei wneud, a'i wneud yn ddiogel, ac y bydd y gwaith sy'n digwydd yn ystod y cyfnod peilot yn lleddfu unrhyw bryderon sydd ganddynt ynghylch y defnydd o'u data personol. Ond mae'n rhaid inni aros i weld canlyniadau'r cynllun peilot a’r materion sy'n codi ynglŷn â data wedi'u datrys. Fel y dywedais wrth Weinidogion Llywodraeth y DU ddoe, rwy'n awyddus iawn i allu cyhoeddi—fel y nodwyd yn y cwestiwn a ofynnodd Paul Davies i mi—datganiad y gall aelodau'r cyhoedd ei weld, sy’n esbonio iddynt sut y bydd y data y byddant yn ei gyfrannu drwy'r ap yn cael ei reoli, y diben y bydd yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer, a gwarantau na chaiff ei ddefnyddio at ddibenion nad ydynt wedi cydsynio iddynt. Oherwydd yn y ffordd honno, byddwn yn ennyn yr hyder ymysg y cyhoedd y bydd ei angen arnom os yw'r ap i gael ei ddefnyddio mewn ffordd a fyddai o fudd i bob un ohonom.