Part of the debate – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 6 Mai 2020.
Lywydd, ni ofynnais am ganiatâd Llywodraeth y DU cyn cyhoeddi'r ddogfen hon gan Lywodraeth Cymru—wrth gwrs na wneuthum. Ond pan gyhoeddais y fframwaith, dywedais fy mod yn ei ystyried yn gyfraniad at drafodaeth roeddwn o’r farn fod angen iddi ddigwydd ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. A chyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ddogfen debyg, fel cyfraniad a oedd yn amlinellu eu syniadau ynglŷn a’r ffordd y gallwn lunio llwybr gyda'n gilydd allan o'r cyfyngiadau symud sy’n wynebu pob un ohonom heddiw.
Rwy'n gwbl ddiedifar ynglŷn â rhoi effaith unrhyw un o'r camau hynny ar gydraddoldeb wrth wraidd y ffordd y byddem yn meddwl am hyn yma yng Nghymru. Dyma pam y cyflwynodd y Senedd Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gyda Chymru fwy cyfartal yn un o'i saith nod. Yn fy natganiad, nodais y ffeithiau difrifol am effaith anghymesur y coronafeirws ar gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig. Ac mae angen mesur y camau a gymerwn yn erbyn yr effaith y byddant yn ei chael ar wahanol gymunedau yng Nghymru i sicrhau nad yw'r baich o ymdopi â'r afiechyd yn pwyso’n anghymesur ar un rhan o gymdeithas Cymru yn hytrach nag un arall. Rwy’n falch iawn o’r ffaith ein bod yn blaenoriaethu cydraddoldeb yn ein hystyriaethau, ac rwy’n sicr yn dadlau dros hynny yn fy nhrafodaethau â Gweinidogion y DU hefyd.
Byddai’n well pe gallai’r Aelod wrthsefyll ei reddf i fanteisio ar gyfle i droi un rhan o gymdeithas Cymru yn erbyn y llall. Gwn ei fod yn cyfeirio at ateb a roddais i gwestiwn ynglŷn â sut roeddem yn bwriadu dod â phlant yn ôl i'r ysgol yng Nghymru. Ac fel enghraifft, dywedais ein bod yn edrych ar grwpiau lle roedd achos penodol i’w gael dros adael iddynt ddychwelyd i'r ysgol yn gynnar. Ac wrth drafod hynny, dywedais, ar gyfer plant ym mlwyddyn 6—plant sy’n mynd i fyny i'r ysgol uwchradd ym mis Medi—y byddai achos cryf i’w gael dros feddwl amdanynt fel y grŵp y byddech am ddod â hwy'n ôl at ei gilydd yn gynnar yn y broses, gan fod y plant hynny’n cwblhau’r ddefod newid byd bwysig honno ochr yn ochr â'u cyd-ddisgyblion, ni waeth pa iaith y maent yn digwydd cael ei dysgu ynddi a pha bynnag iaith y maent yn digwydd ei siarad gartref.
Soniais am blant ag anghenion ymddygiadol, sy'n dibynnu ar rythm y diwrnod ysgol ac y mae eu rhieni'n ei chael hi'n anodd gofalu amdanynt am 24 awr bob dydd dan gyfyngiadau eu cartref, fel grŵp a allai ddychwelyd i'r ysgol yn gynnar.
A soniais am y bobl ifanc yng Nghymru rydym mor falch o’u cael mewn addysg Gymraeg, sy’n dod o gartrefi lle nad oes gair o Gymraeg yn cael ei siarad fel rheol, ac a fydd bellach wedi bod allan o’r amgylchfyd iaith Gymraeg am wythnosau lawer. Ac fe wnes eu nodi, unwaith eto, fel grŵp y gallech ddadlau bod ganddynt achos penodol dros ddychwelyd i'r ysgol yn gynharach, ochr yn ochr â'r holl rai eraill hynny. Mae ceisio troi un rhan o boblogaeth ein hysgolion yn erbyn y llall a chreu ymdeimlad o annhegwch, unwaith eto—nid yw'n adlewyrchu’n dda ar yr Aelod, ac yn sicr, nid dyna'r ffordd rydym yn meddwl am bethau yng Nghymru.