Part of the debate – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 6 Mai 2020.
Diolch i Janet Finch-Saunders am y croeso a roddodd i'r £500. Nid wyf yn credu ei bod yn gywir yn dweud nad oedd awdurdodau lleol yn gwybod dim amdano. Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ei groesawu mewn dyfyniadau a gyflwynwyd ganddynt ar y diwrnod y gwnaethom ei gyhoeddi. Rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sef llais cyfunol awdurdodau lleol yng Nghymru, i wneud yn siŵr fod yr arian yn gallu cyrraedd y rhai rydym yn dymuno iddo eu cyrraedd yn y ffordd orau a'r ffordd gyflymaf, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cytuno y dylai'r £500 hwnnw i gyd fynd i'r unigolion hynny.
Hoffwn pe bawn yn gallu dweud wrthi y gallem dalu'r cyflog byw gwirioneddol fan lleiaf i'r holl weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, a byddwn yn gweithio gydag undebau llafur, awdurdodau lleol a'r sector i weld sut y gellid cyflawni hynny ar ôl cefnu ar y coronafeirws. Ond er mwyn inni allu gwneud hynny, bydd yn rhaid inni gael yr arian o Whitehall er mwyn gallu talu'r gyfradd rwyf newydd ei chlywed yn ei chefnogi i bobl, ac yn sicr byddem eisiau gweithio tuag at hynny, ond nid ydym yn cael ein hariannu i wneud hynny ar hyn o bryd a byddai'n wych, ar ôl cefnu ar y coronafeirws, pe baem mewn sefyllfa i wneud hynny ar draws y DU.