Part of the debate – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 6 Mai 2020.
Wel, Llywydd, dwi ddim wedi gweld dim byd ar y pwnc yna. Dwi ddim wedi cael cyngor, dwi ddim wedi cael trafodaethau o gwbl, a dwi ddim wedi clywed am y posibiliad cyn clywed beth yr oedd Siân Gwenllian wedi'i ddweud nawr. So, wrth gwrs, dwi'n fodlon i fynd ar ôl y pwnc i weld a oes trafodaethau wedi bod ar y gweill yn unrhyw le yn Llywodraeth Cymru. Ac os oes unrhyw beth y tu ôl i beth mae Siân wedi'i glywed, dwi'n hapus i ysgrifennu ati hi a rhoi mwy o fanylion. Ond dwi ddim wedi clywed dim byd ar hyn o bryd.