Part of the debate – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 6 Mai 2020.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac am y cydweithrediad parhaus rhyngddo ef a'i staff ac eraill ohonom ar draws y Siambr. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr.
Os caf gyfeirio'n gyntaf at y gronfa cadernid economaidd, roeddwn yn falch iawn o glywed y Gweinidog yn dweud mewn ymateb i Russell George y bydd yn ceisio sicrhau bod cynifer â phosibl o'r busnesau nad ydynt yn gallu cael gafael ar gymorth ar hyn o bryd yn cael mynediad at y gronfa honno. Codais bryderon gydag ef, er enghraifft, ynghylch busnesau gwely a brecwast sy'n talu'r dreth gyngor yn hytrach nag ardrethi busnes, yn ogystal â masnachwyr unigol sy'n gweithio gartref. Tybed a yw'n bosibl i'r Gweinidog roi rhyw fath o amserlen i ni mewn perthynas â phryd y mae'n gobeithio gwneud y penderfyniad hwn. Mae'n amlwg yn bwysig iawn ei fod yn osgoi dyblygu cynlluniau'r DU ac yn mynd ati go iawn i ddefnyddio ei adnoddau i lenwi'r bylchau, ond rwy'n siŵr y bydd hefyd yn deall bod yna lawer o fusnesau bach iawn nad ydynt wedi cael cymorth eto yn aros yn bryderus i glywed beth sydd ganddo i'w ddweud.
O ran y gwaith adfer, mae'r Gweinidog yn sôn yn briodol am gadw pawb yn ddiogel, ac yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, mae canllawiau newydd yn cael eu llunio ar draws y pedair gwlad i edrych ar sut y gall nifer o aelodau o staff mewn llawer o wahanol ddiwydiannau ddychwelyd i'r gwaith yn ddiogel. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno y bydd angen sicrwydd ar rai aelodau o staff, pan fydd y canllawiau a'r rheolau newydd hyn ar waith, y bydd ffyrdd y gellir gorfodi hynny'n effeithiol. Gwn ei fod yn ymwybodol o fy mhryder ynglŷn â'r capasiti o fewn llywodraeth leol i wneud hynny'n effeithiol. Felly, a all ddweud rhagor ynglŷn â sut y gall sicrhau, pan fydd y rheoliad newydd hwn ar waith, y gall gweithwyr gael y gefnogaeth y byddant ei hangen os bydd rhaid iddynt ofyn am i reolau gael eu gorfodi?