Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 6 Mai 2020.
Weinidog, hoffwn eich holi ynglŷn â beth fydd yn digwydd wrth inni symud ymlaen, yn enwedig mewn perthynas â'r agenda sgiliau. Nawr, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol fod rhannau o Gymoedd de Cymru nid yn unig â chyfraddau uchel o'r coronafeirws, ond hefyd wedi'u nodi fel mannau â mwy o risg economaidd o ran canlyniadau yn sgil yr argyfwng. Felly, hoffwn ofyn i chi pa gynlluniau sydd gan dasglu'r Cymoedd i roi sylw i'r baich ychwanegol hwn yn eu gwaith wrth symud ymlaen.