Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 6 Mai 2020.
Diolch. Wel, mae wedi bod yn eithaf diddorol, mae'r British Council wedi gwneud cryn dipyn o arolygon mewn perthynas â diddordeb myfyrwyr Tsieineaidd—p'un a ydynt yn dal i fod eisiau dod i astudio yn y Deyrnas Unedig. Ac mae'n eithaf diddorol, fel y dywedwch, ei bod hi'n ymddangos bod gan y mwyafrif ohonynt ddiddordeb mawr o hyd. Mae'n ymddangos bod tua 39 y cant ohonynt sy’n dod o Tsieina heb benderfynu, ac felly mae hynny'n awgrymu bod angen inni roi camau ar waith i sicrhau bod ganddynt yr hyder rydych chi'n siarad amdano. A dyna pam y mae’r protocolau hyn yn mynd i fod yn wirioneddol bwysig yn fy marn i wrth symud ymlaen, er mwyn rhoi'r hyder hwnnw iddynt. Mae myfyrwyr o India a Phacistan yn yr un arolwg gan y British Council yn awgrymu nad yw 50 y cant ohonynt yn debygol o ganslo eu cynlluniau ac mae'n ymddangos bod ganddynt fwy o ddiddordeb mewn sicrhau eu bod yn parhau â’r rheini. Cafwyd trafodaethau gyda Cymru Fyd-eang a Llywodraeth y DU ynglŷn â sut y gallwn feithrin hyder y bobl hynny.
Wrth gwrs, ers tua 29 Ionawr, mae angen wedi bod i hunanynysu, os ydych chi'n dangos symptomau, wrth ddod i'r wlad hon o rywle arall. Ond rwy'n credu bod yna gwestiwn y mae'n rhaid inni ei ofyn o hyd mae’n debyg, ac mae'n un a ofynnais i Frank Atherton y bore yma, sef: a ddylem fynd ychydig ymhellach efallai ac awgrymu y dylai pawb sy'n dod i mewn hunanynysu am bythefnos? Mae'n eithaf diddorol nodi ei bod yn ymddangos ein bod ychydig yn wahanol i lawer o wledydd eraill yn y byd ar hynny. Ond mae'n rhywbeth rydym yn ei drafod yn ein cyfarfodydd wythnosol gyda'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Fel y dywedaf, cefais gyfarfod gyda’r Gweinidog addysg lle buom yn trafod rhai o’r materion hynny.
Ar fasnach rydd, cefais drafodaeth ddoe gyda Greg Hands, sef y Gweinidog sy'n gyfrifol am y negodiadau gyda'r Unol Daleithiau ar greu cytundeb masnach rydd newydd. Pwysleisiais bwysigrwydd sicrhau y cedwir at y safonau sy’n bwysig i ni, ond bod yr iaith yn y mandad negodi yn eithaf amwys a'n bod yn credu y dylid ei thynhau mewn gwirionedd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig eu bod yn deall, ac mae'n rhywbeth rwy'n ei bwysleisio'n glir iawn, ein bod am sicrhau ein bod yn cadw at y safonau amgylcheddol uchel hyn, y safonau lles anifeiliaid, y safonau llafur a'r safonau defnyddwyr. Mae'r rheini i gyd yn bethau y byddwn yn edrych amdanynt yn y cytundebau. Roedd yn deall hynny a gwnaethom bwysleisio pwysigrwydd trin pawb yn yr un modd wrth ystyried mewnforion i'r wlad hon, a bod angen cadw at y safonau rydym yn eu disgwyl, o ran lles anifeiliaid, er enghraifft, neu fel arall gallai fod perygl y gallent danseilio'r hyn y gallwn ei gynhyrchu yn y wlad hon.