Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 6 Mai 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth i Gymru wynebu'r her fwyaf o ran iechyd y cyhoedd ers mwy na chanrif, rydyn ni wedi mynd ati gyda'n gilydd i weithredu er mwyn amddiffyn ein cymunedau, diogelu ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac achub bywydau. Mae'r camau yr ydym yn eu cymryd yn gwneud gwahaniaeth. Rydyn ni'n gwybod am yr aberth y mae pobl yn ei wneud wrth inni barhau i fyw o dan y cyfyngiadau i'n bywydau bob dydd. Mae'n bwysig ein bod yn dechrau edrych ymlaen, yn bwyllog ac yn ofalus, tua'r dyfodol, gan ragweld sut le fydd Cymru a gweddill y byd pan fydd y pandemig o dan reolaeth. Bydd rheoli'r gwaith o adfer ar ôl y pandemig yn her fawr i bawb, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.
Mae'r Prif Weinidog wedi amlinellu fframwaith ar gyfer arwain Cymru allan o argyfwng y coronafeirws mewn ffordd sy'n cadw pawb yn ddiogel ac yn adfer ein heconomi cyn gynted â phosib. Mae'r fframwaith yn gosod y sylfaen ar gyfer llacio'r cyfyngiadau presennol, a bydd yn cael ei lywio ar sail y data gwyddonol gorau.
Yfory, bydd y Prif Weinidog yn adolygu'r dystiolaeth ddiweddaraf eto ac yn ystyried y cyfyngiadau presennol. Mae wedi dweud yn glir mai'r hyn fyddai orau ganddo ef, o ddigon, fyddai gallu cytuno ar gyfres o fesurau cyffredin ac amserlen gyffredin ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd. Rydyn ninnau, wrth reswm, yn gwneud ein paratoadau ein hunain i sicrhau mai buddiannau pobl Cymru yw'r flaenoriaeth o hyd.