6. Datganiad gan y Gweinidog fydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 6 Mai 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:58, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Gan edrych ymhellach ymlaen, byddwn yn sicrhau y bydd ein gwaith adfer yn y dyfodol yn gyson â'n rhaglen lywodraethu, gan sicrhau bod egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol, gwaith teg a chynaliadwyedd amgylcheddol yn ganolog i'n meddylfryd. Bydd hyn yn cynnwys dysgu o'r profiad o sut y mae Cymru wedi wynebu her yr wythnosau diwethaf.

Fel rhan o'n paratoadau adfer yn y dyfodol, cynhaliais gyfres gychwynnol o drafodaethau bwrdd crwn gydag arbenigwyr byd-eang—ffigyrau amlwg ym maes economeg, y farchnad lafur, newid hinsawdd, gwasanaethau cyhoeddus a busnes. Bydd eu cyfraniad yn ein helpu i ddod allan o'r argyfwng hwn yn gryfach ac yn fwy gwydn.

Mae pob un o'r trafodaethau bwrdd crwn hyn wedi canolbwyntio ar fater penodol: rydym wedi trafod effaith y pandemig ar wasanaethau cyhoeddus, ar yr economi ac ar bobl agored i niwed, ac wedi ystyried sut i sicrhau ein bod yn cael adferiad gwyrdd.

Rwyf wedi cyhoeddi enwau pob un o'r cyfranogwyr yn y cylch cyntaf o drafodaethau. Mae'r sesiynau i gyd wedi bod yn ysgogol ac wedi procio'r meddwl, gan gynnig mewnwelediad i'r her. Maent wedi rhoi hwb aruthrol inni allu symud ymlaen.

Mae'r drafodaeth ar adferiad gwyrdd yn atgyfnerthu pwysigrwydd yr amgylchedd i economi Cymru. Byddwn yn chwilio am atebion blaengar ac arloesol i ymateb i heriau amgylcheddol ehangach ac i ateb yr argyfwng hinsawdd. Roedd hefyd yn cydnabod bod ymddygiad unigolion a busnesau wedi newid drwy'r argyfwng COVID-19 mewn ffyrdd sydd wedi arwain at fanteision amgylcheddol sylweddol. Mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd o helpu pobl i gynnal y newidiadau hyn yn y tymor hir, ac wrth weithio i ailadeiladu ein heconomi i fynd i'r afael ag effaith COVID-19, rhaid i'r penderfyniadau a wnawn adlewyrchu ein hymrwymiad fel Llywodraeth i fynd i'r afael â newid hinsawdd a gwella bioamrywiaeth, ac fe fyddant yn gwneud hynny.

Bydd cefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed a sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl hefyd yn ganolog i'r ffordd y ceisiwn gefnu ar effeithiau economaidd COVID-19. Yn ein trafodaeth ar hyn, cydnabuwyd bod angen trafodaeth gyhoeddus agored ar y math o Gymru rydym i gyd ei heisiau; cydnabyddiaeth fod newid wedi bod yn y gwerth y mae pobl yn ei roi ar wahanol sectorau'r economi, gyda gwerthfawrogiad o'r newydd o gyfraniad enfawr ein gweithwyr allweddol.

Deilliodd cyfleoedd newydd i'r gadwyn gyflenwi ac i arloesedd hefyd o'r heriau ofnadwy rydym i gyd wedi bod yn eu hwynebu. Roedd y drafodaeth ar wasanaethau cyhoeddus yn eang ac yn cwmpasu ehangder ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar dair thema drawsbynciol gyffredinol: cydnerthedd a diwygio gwasanaethau cyhoeddus; yr agenda ddigidol—ac o ran y rôl y gall ei chwarae'n trawsnewid a mynd i'r afael ag allgáu digidol; ac yna rôl gwasanaethau cyhoeddus yn y lleoedd, yn y cymunedau, y maent yn eu gwasanaethu.

Nid mater syml o ddychwelyd at fywyd fel arfer fydd bywyd gyda COVID-19 dan reolaeth. Bydd llawer wedi newid yn sylfaenol, ac mae cael persbectif eang gan arbenigwyr rhyngwladol blaenllaw yn rhan bwysig o ddod â syniadau annibynnol a chreadigrwydd newydd i'n strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â'r realiti newydd hwnnw. Ond wrth gwrs, mae hi'r un mor bwysig ein bod yn clywed gan bobl yng Nghymru, ac yn ystod yr wythnosau nesaf byddaf yn cynnal cyfres arall o drafodaethau bwrdd crwn rhithwir gydag arbenigwyr o bob rhan o Gymru, a fydd yn cyfrannu eu harbenigedd eu hunain i'r trafodaethau. Byddwn hefyd yn clywed gan ein partneriaid cymdeithasol a chan randdeiliaid ledled Cymru, ac rydym hefyd yn annog pobl i anfon sylwadau at futurewales@gov.wales, ac mae'r syniadau eisoes yn dod i mewn.

Felly, er ein bod yn denu safbwyntiau allanol, bydd ein cynlluniau adfer wedi'u gwreiddio yng Nghymru ac yn adlewyrchu'r heriau a'r cyfleoedd unigryw sy'n ein hwynebu. Hoffwn gloi drwy ddiolch i'n holl bartneriaid am eu hymdrechion sylweddol yn ymateb yn gyflym iawn i'r heriau a'r problemau a achosir gan y clefyd dychrynllyd hwn. Bydd eu cymorth parhaus yn rhan hanfodol o'n cynlluniau adfer.