Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 6 Mai 2020.
Diolch am hynny. Ar eich sylwadau cychwynnol—a diolch am y gefnogaeth a nodoch chi—o ran agweddau eang y rôl, un o'r pwyntiau allweddol rydym yn ceisio ei sicrhau yw bod gan y Llywodraeth yn ei holl agweddau ddealltwriaeth gyffredin o rai o'r heriau sydd o'n blaen ac y gellir bwydo hynny i mewn i waith Gweinidogion a gweision sifil a'i brif-ffrydio yn ein cyd-ddealltwriaeth, ar draws y portffolios, o beth yw rhai o'r effeithiau. Mae'n amlwg y bydd ymyriadau mewn un maes yn effeithio ar eraill, ac felly mae hynny'n rhan o'r rhesymeg.
Ar y pwynt digidol, sef prif bwynt ei gwestiwn, mae mater allgáu digidol yn gwbl ganolog i'r mathau o faterion y buom yn eu trafod, o ran yr ymateb uniongyrchol i COVID, gan gydnabod bod manteision, yn amlwg, yn y modd y mae awdurdodau lleol wedi gallu darparu llawer mwy o wybodaeth ar-lein am y cymorth y gallant ei roi i bobl sydd wedi'u hynysu, a chyflymder, mewn gwirionedd, ein gallu i gyflwyno apwyntiadau meddygon teulu ar-lein, dros fideo, a hynny ar raddfa fawr. Rwy'n credu mai rhan o'r her i bob llywodraeth yn y dyfodol, mewn gwirionedd, yw peidio â dad-ddysgu'r ymddygiad hwnnw ac i allu gwneud y math hwnnw o newid yn y dyfodol mewn cyd-destunau mwy diniwed, gobeithio, mewn amgylchiadau mwy diniwed.
Ond mae'r pwynt a wnewch yn gwbl ganolog i'r drafodaeth a gawsom ddoe, er enghraifft, ynglŷn â diwygio gwasanaethau cyhoeddus a phwysigrwydd parhau â'r broses o ddarparu gwasanaethau'n ddigidol, yn amlwg, am fod hynny'n rhyddhau cyfalaf dynol ar gyfer cymorth arall y gall y wladwriaeth ei roi, a hefyd i gynnwys yn hynny y syniad o sut yr awn i'r afael ag allgáu, fel eich bod yn cynnwys y defnyddiwr a'r defnyddiwr gwasanaeth wrth gynllunio'r gwasanaethau hynny er mwyn i chi allu mynd â phobl ar y daith honno gyda chi yn ogystal â mynd i'r afael â'r pwyntiau yn eich cwestiwn ynghylch cymhwysedd digidol, ond hefyd mynediad digidol. Ydy, mae'n ymwneud â band eang, ac mae dimensiwn gofodol i hynny. Mae hefyd yn ymwneud â mynediad at offer, onid yw? Nid oes gan bob cartref liniadur a dau neu dri o ffonau clyfar, ac ni all pobl fynd i lyfrgelloedd ar hyn o bryd. Nid yw caffis rhyngrwyd yn bodoli yn y ffordd yr arferent fodoli. Felly, mae'r rhain yn heriau o ran mynediad yn ogystal â heriau o ran cymhwysedd.
Bydd heriau'n codi hefyd yn y dyfodol o'r dewisiadau y mae'n eu disgrifio yn ei gwestiwn. Efallai y bydd pobl sy'n gallu gweithio gartref yn dewis gwneud hynny fwy yn y dyfodol nag sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Efallai y bydd hynny'n gwneud rhywbeth i'r mannau lle mae pobl yn dewis byw. Os nad yw pobl yn teimlo bod yn rhaid iddynt fod o fewn pellter cymudo agos, efallai y bydd dosbarthiad anheddau'n newid, a gallai hynny hefyd greu pwysau yn y dyfodol ar ddosbarthiad band eang. Felly, mae heriau go fawr yn y fan honno.
O ran cynrychiolaeth o'r byd busnes, roedd yna 21 o bobl, rwy'n credu, dros dair sesiwn, felly, mewn gwirionedd, credaf mai cynrychiolaeth ysgafn sydd gan bawb yn y cyd-destun hwnnw. Roedd gennym un neu ddau o bobl fusnes, rwy'n meddwl, yn un o'r sesiynau ddoe, yn siarad o safbwynt cyllid i raddau helaeth ac o safbwynt entrepreneuraidd, ac roedd yn gyfraniad pwysig a gwerthfawr iawn i'r drafodaeth yn fy marn i. Yn amlwg, pan fyddwn yn cynnal ein cyfres nesaf o gyfarfodydd bwrdd crwn, byddwn am wneud yn siŵr ein bod yn parhau'r lefel honno o gynrychiolaeth yn gyffredinol, er mwyn sicrhau bod amrywiaeth o leisiau yn y cymysgedd.