Part of the debate – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 13 Mai 2020.
Llywydd, unwaith eto, fe roddaf yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am y camau diweddaraf yn ein hymateb i argyfwng y coronafeirws. Fel yn yr wythnosau blaenorol, byddaf yn canolbwyntio ar faterion nad ydyn nhw'n cael sylw yn y datganiadau sy'n dilyn gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Cyn i mi wneud hynny, hoffwn ddechrau drwy fyfyrio ar ddathliadau diwrnod VE ddydd Gwener yr wythnos diwethaf. Yn amlwg, newidiodd coronafeirws y ffordd y gwnaethom ni nodi'r pen-blwydd pwysig hwn, ond nid oedd yn llai teimladwy na thrawiadol o'r herwydd. Cefais y fraint o siarad â nifer o gyn-filwyr ar Zoom a thros y ffôn, ac ymunais â degau o filoedd o bobl ledled Cymru yn y ddau funud o dawelwch o risiau adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd. Hyd yn oed yn yr oes llawn argyfyngau sydd ohoni, roedd yn gwbl briodol dod o hyd i'r foment honno a chydnabod yr aberth a wnaed.
Llywydd, yr wythnos diwethaf rhoddais ddiweddariad i'r Aelodau ar gynnydd y clefyd. Yn drist iawn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod mwy na 1,100 o bobl wedi marw yng Nghymru. Mae person a theulu sy'n galaru y tu ôl i bob rhif, ac mae'r rhain yn ein hatgoffa o'r angen am wyliadwriaeth barhaus a'n hymrwymiad cyffredin i barhau i wneud yr holl bethau hynny sy'n ein helpu ni i achub bywydau. Ac oherwydd yr ymdrechion hynny y mae'r nifer o achosion newydd o goronafeirws a gadarnheir y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu cyhoeddi bob dydd wedi parhau i ostwng. Mae tua un o bob 10 o bobl sydd yn yr ysbyty yn cael triniaeth ar gyfer coronafeirws ar hyn o bryd, a phobl sydd â'r clefyd sydd mewn tua un o bob pum gwely gofal critigol, ac mae hyn i lawr o uchafbwynt o 42 y cant yng nghanol mis Ebrill. Wrth gwrs, rwy'n falch iawn o adrodd bod mwy na 3,000 o bobl yng Nghymru wedi gwella o coronafeirws ac wedi gadael yr ysbyty.
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymateb i effeithiau'r cyfyngiadau symud ar ddinasyddion agored i niwed, fel y dywedais yr wythnos diwethaf. Rydym ni'n gwybod nad yw'r cartref yn lle diogel i rai pobl, ac mae'n hanfodol bod y rhai sydd angen cymorth yn gallu parhau i'w gael er gwaethaf y cyfyngiadau presennol. Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi lansio ymgyrch newydd i wneud yn siŵr bod dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig yn gwybod sut y gallan nhw gael gafael ar gymorth. Mae'n annog pobl sy'n agos iddyn nhw adnabod arwyddion cam-drin domestig a cheisio cymorth i'r rhai nad ydyn nhw'n gallu helpu eu hunain.
Ac yn hyn i gyd, Llywydd, mae gwaith gwirfoddolwyr yn yr argyfwng presennol wir yn ysbrydoli. Mae miloedd o bobl wedi cynnig eu gwasanaethau. Diolch i'r strwythur partneriaeth cryf sydd gennym ni yng Nghymru, cymerodd cynghorau gwirfoddol sirol ac awdurdodau lleol gamau cyflym i baru gwirfoddolwyr gyda'r bobl sydd angen eu cymorth, i ddarparu cymorth ar unwaith ac yn yr hirdymor. Yn Sir Gaerfyrddin, er enghraifft, ymatebodd mwy na 360 o bobl i alwad am gymorth gan yr awdurdod lleol i drefnu dodrefn ac offer yn ysbytai maes y sir o fewn 24 awr i gychwyn yr apêl.
A Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gydnabod swyddogaeth hollbwysig y trydydd sector. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd gennym ni y bydd miloedd o elusennau bach yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn cael grant cymorth busnes o £10,000 i'w helpu i ymateb i heriau ariannol COVID-19. Bydd y pecyn £26 miliwn newydd hwn yn cefnogi 2,600 o eiddo ychwanegol â gwerth ardrethol o £12,000 neu is, ac mae hynny'n cynnwys siopau sy'n cael eu rhedeg gan elusennau, safleoedd chwaraeon a chanolfannau cymunedol, nad ydyn nhw, tan nawr, wedi bod yn gymwys ar gyfer y math hwn o gymorth.
Llywydd, trof nawr at yr adolygiad tair wythnos statudol o'r rheoliadau cyfyngiadau symud yng Nghymru, a gwblhawyd gan Lywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf. Hwn oedd yr ail adolygiad i gael ei gynnal, a defnyddiodd y cyngor diweddaraf gan Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar gyfer Argyfyngau a chyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru.
Er ein bod ni wedi mynd heibio uchafbwynt cychwynnol yr haint, a bod cyfraddau'n parhau i ddisgyn, y cyngor clir gan yr arbenigwyr yw ei bod hi'n rhy gynnar i'r cyfyngiadau gael eu codi. Felly, rydym ni wedi cadw'r rheoliadau aros gartref ar waith ac wedi gwneud tri addasiad bach, a daeth yr addasiadau hyn i rym ddydd Llun. Rydym ni wedi cael gwared ar y cyfyngiad ymarfer corff unwaith y dydd—bydd angen i ymarfer corff ddechrau a gorffen gartref a bod yn lleol; rydym ni wedi caniatáu i ganolfannau garddio agor, os ydyn nhw'n gallu cydymffurfio â'r ddyletswydd cadw pellter corfforol; ac rydym ni wedi galluogi awdurdodau lleol i ddechrau cynllunio ar gyfer ailagor llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu cynghorau.
Y dystiolaeth a oedd yn sail i'n penderfyniad oedd bod cyfradd atgynhyrchu—cyfradd R—y feirws yn parhau i ostwng. Mae'n is nag 1, ond pe byddai'n dechrau ymgripio uwchlaw 1 unwaith eto, byddem ni'n gweld y perygl o dwf cyflymach. Nawr, os cânt eu cynnal, bydd yr amodau hyn yn caniatáu i ni gymryd camau cynyddol dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i lacio'r cyfyngiadau ymhellach, ond dim ond pan fydd hi'n ddiogel i hynny ddigwydd y byddwn ni'n gwneud hynny. Byddwn yn adolygu'r rheoliadau'n gyson er mwyn caniatáu i ni ymateb i'r dystiolaeth ddiweddaraf am y modd y mae'r feirws yn ymddwyn, effeithiolrwydd y cyfyngiadau a'r lefelau cydymffurfio.
Yn hyn i gyd, Llywydd, rydym ni'n parhau i gefnogi ymateb pedair gwlad i godi'r cyfyngiadau symud, ac yn parhau i weithio gyda phob rhan arall o'r Deyrnas Unedig. Ond, bydd y camau yr ydym ni'n eu cymryd ac amseriad y newidiadau yn cael eu penderfynu gan amodau yma yng Nghymru. Wrth ymateb i'r feirws, rydym ni wedi adeiladu ar ein seilwaith unigryw i Gymru. Mae ein Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a'n perthynas â busnesau Cymru wedi ein helpu i sicrhau cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol o ffynonellau domestig a rhyngwladol. Ond, lle ceir trefniadau ar sail y DU a all weithio'n dda i ni, byddwn yn rhan o'r rheini hefyd. Ddydd Sul, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU ganolfan bioddiogelwch newydd ar y cyd i gynghori'r pedwar prif swyddog meddygol ar lefel yr haint ar draws y DU. Rydym ni mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill ynghylch sut y gall hyn weithredu'n fwyaf effeithiol ledled y Deyrnas Unedig, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd wrth i'r prosiect ddatblygu.
Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddwn yn darparu mwy o fanylion am ein cynlluniau ar gyfer yr wythnosau nesaf. Mae'r rhain yn cael eu datblygu gyda'n partneriaid yn yr undebau llafur, mewn busnesau, mewn llywodraeth leol, yn y GIG ac mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill. Rydym ni'n cynllunio ar gyfer y dyfodol, a phan fydd gwasanaethau yng Nghymru yn agor, gall y cyhoedd fod yn ffyddiog y bydd y trefniadau yn ddiogel ac yn ymarferol.
Llywydd, mae'r argyfwng coronafeirws yn bell iawn o fod drosodd. Mae datblygiad y clefyd yn gofyn am ymateb parhaus â phwyslais dwys iawn. Byddaf yn parhau i adrodd bob wythnos i'r Senedd ar y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru. Diolch yn fawr.