2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 13 Mai 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:50, 13 Mai 2020

Diolch, Llywydd. Cyn troi at fy nghwestiwn, hoffwn wneud pwynt o drefn ar ddiwedd y datganiad yma, os wnewch chi ganiatáu hynny, ar y ffaith i'r Llywodraeth rannu ei strategaeth arbrofi ac olrhain cysylltiadau wyth munud union cyn dechrau'r sesiwn graffu yma, a heb friffio’r gwrthbleidiau o flaen llaw, fel yr addawyd i mi'r bore yma.