Part of the debate – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 13 Mai 2020.
Wel, Llywydd, nid wyf i'n—. Rhoddodd y Gweinidog iechyd yr ateb hwnnw; rwy'n siŵr ei fod yn tynnu ar yr wybodaeth orau a oedd ganddo ar y pryd. Nid yw manylion pob eitem a oedd mewn storfa ar ddiwrnod penodol gen i o fy mlaen, ac ni fyddai'n rhesymol disgwyl i mi fod â nhw o fy mlaen. Os oedd yr Aelod eisiau cael y wybodaeth honno, gallai fod wedi cyflwyno un o'i gwestiynau ysgrifenedig niferus i mi a chael yr wybodaeth.