Part of the debate – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 13 Mai 2020.
Llywydd, nid wyf i'n mynd i gael fy nhynnu i mewn i'r math hwn o ddull lladd ar bersonoliaeth o ymdrin â'r feirws. [Torri ar draws.] Gallaf glywed—. Clywais yn iawn yr hyn a ofynasoch i mi, diolch yn fawr iawn, ac rwy'n dweud wrthych chi nad wyf i'n mynd i gael fy nhynnu i mewn i'r math hwnnw o gwestiwn, sydd wedi'i gynllunio'n syml i ymosod ar unigolyn a oedd allan gyda'i deulu, sydd â'r hawl, byddwn i'n dweud, i rywfaint o breifatrwydd yn y ffordd yr oedd yn gwneud pethau, ac a fydd yn siarad drosto'i hun.