2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 13 Mai 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:19, 13 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'n fawr iawn y £500 yr ydym ni wedi ei roi i weithwyr gofal, oherwydd maen nhw'n sicr ar y rheng flaen o ran risg, yn gofalu am y bobl fwyaf agored i niwed yn byw mewn amgylchiadau agos iawn. Rwyf i hefyd yn croesawu'n fawr yr unedau profi symudol a lansiwyd i alluogi preswylwyr a staff mewn cartrefi gofal i gael eu profi, i weld a yw'r feirws ganddyn nhw. Ond rwy'n siŵr y gwnewch chi gydnabod nad yw un uned brofi symudol ar gyfer Caerdydd a'r Fro gyfan yn ddigonol ar gyfer yr holl gartrefi gofal a'r holl bobl hŷn agored i niwed hynny y mae angen i ni eu diogelu. Felly roeddwn i eisiau eich holi am eich cynlluniau ar gyfer ein galluogi i gynyddu yn enfawr nifer yr unedau profi. Mae un adroddiad yn sôn am 94 o dimau yn gweithio saith diwrnod yr wythnos. Mae'n ymddangos na allwn ni ddibynnu ar bersonél iechyd oni bai ein bod ni eisiau gweld yr holl ymyraethau iechyd pwysig eraill y maen nhw'n eu darparu yn cael eu rhoi o'r neilltu, ac ni fyddwn i eisiau gweld hynny. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed pa ystyriaeth a roddwyd i recriwtio pobl eraill. Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi dalu teyrnged i'r sector gwirfoddol, ac rwy'n ymwybodol, yn Sheffield, yr arweiniwyd yr arbrawf ar gyfer profi ac olrhain gan gyfarwyddwr iechyd y cyhoedd sydd wedi ymddeol; mae hefyd yn cynnwys gwirfoddolwyr yn cynorthwyo'r agwedd olrhain ar y broses.