Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 13 Mai 2020.
Diolch am y cwestiynau. Ceisiaf eu hateb mor gyflym ag y gallaf, Llywydd. O ran paratoadau ar gyfer pandemig, bydd gennym ni lawer o wersi i'w dysgu yn sgil hyn. Roedd ein paratoadau sylfaenol ar gyfer pandemig ar batrwm y ffliw, ond mae hwn yn fath ychydig yn wahanol o bandemig. Bydd gennym ni lawer o wersi i'w dysgu. Rydym ni'n dysgu wrth i ni ymateb i'r sefyllfa, ac mae'r ffordd yr ydym ni nid yn unig yn stocio ond yn ailstocio ein storfeydd cyfarpar diogelu personol yn rhan o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud nawr, ond yn sicr bydd angen i ni werthuso ein hymateb. Ac fel yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen, rwy'n siŵr, ym mhob Senedd ar draws y Deyrnas Unedig, y bydd awydd ym mhob plaid i edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi digwydd pan fyddwn yn cyrraedd pen draw hyn o'r diwedd i ddysgu gwersi, i ddeall yr hyn a wnaethom ni, ond yn hollbwysig, i ddeall yr hyn y mae angen inni ei wneud ar gyfer y dyfodol. Rwy'n gobeithio y gall yr ymchwiliad hwnnw ddigwydd cyn gynted ag sy'n bosib, oherwydd byddai hynny'n golygu ein bod ar ddiwedd pandemig y coronafeirws, ond rwyf yn sylweddoli y bydd yn rhaid i hynny aros nes y byddwn ni mewn gwirionedd wedi cyrraedd yr adeg honno.
O ran y sylw am brofi pob preswylydd yn yr ysbyty, rwy'n credu, o'r enghraifft a roesoch chi, os oedden nhw'n symptomatig, fel yr ydych chi'n awgrymu, dyna'r math o beth y dylem ni fod wedi cael barn glinigol arno a chynnig prawf, os oedd hynny'n briodol, cyn iddyn nhw adael. Ac unwaith eto, rwy'n credu mai dyma'r math o beth i'w godi gyda'r bwrdd iechyd yn uniongyrchol, ac os na chewch ymateb boddhaol yna dewch yn ôl ataf. Fel y dywedais wrth ymateb i Rhun ap Iorwerth, rydym yn parhau i adolygu'r dystiolaeth ar yr hyn y dylem ni ei wneud, ac mae'n bosib iawn y bydd hynny'n newid yr hyn y mae angen inni ei wneud o ran profi cleifion mewn ysbytai ond hefyd ein staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol hefyd.
O ran treulio mwy o amser yn yr awyr agored, fe wnaethom ni newid y rheoliadau yng Nghymru. Un agwedd ar y lliniaru cymedrol a gochelgar a wnaethom ni i'r rheoliadau a'r dull gweithredu yma yng Nghymru oedd dweud y gallai pobl fynd allan i ymarfer corff fwy nag unwaith, gan fod y dystiolaeth y cyfeiriodd y Prif Weinidog ati yn ymwneud â'r ffaith bod hanner oes coronafeirws yn cael ei lleihau'n sylweddol y tu allan ac yng ngolau'r haul. Felly, dyna newid yr ydym ni wedi'i wneud i annog mwy o bobl i fynd allan fwy nag unwaith y dydd i wneud ymarfer corff.
Ac o ran eich sylw ynglŷn ag unigrwydd a theimlo'n ynysig, bu hynny'n rhywbeth y bu Gweinidogion yn ei ystyried ar bob cam yn y newidiadau yr ydym yn eu gwneud, ac mae'n fater sy'n peri pryder gwirioneddol. Gwn fod gan lawer o Aelodau yn y Siambr, fel sydd gen innau, rieni hŷn y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw i bob pwrpas, ac mae'n rhywbeth sy'n fy mhoeni am fy nheulu fy hun, ac rwy'n gwybod bod aelodau eraill yn cymryd hynny o ddifrif hefyd. Felly, mae'r strategaeth ar gyfer unigrwydd a theimlo'n ynysig yn rhan o'r cymorth yr ydym ni wedi'i roi ar waith ac y bu inni ei ariannu'n arbennig gyda'r trydydd sector i ddarparu cymorth. Dyna fydd un o'r prif ffactorau y mae angen inni eu hystyried o ran codi'r cyfyngiadau symud a'r llwybr yn y pen draw at adferiad ac y tu hwnt i hynny.
Ac o ran amserlen ar gyfer gweithgarwch pellach gan y GIG, dylwn i fod mewn sefyllfa i ddarparu gwell syniad am hynny wrth imi gael y cynlluniau ar chwarter 1, ac fel y dywedais, rwy'n credu mewn ymateb i Angela Burns, rwy'n bwriadu cyflwyno datganiad pellach i roi mwy o fanylion am hynny. Ac rwy'n credu y cefais y pleser o gael gwahoddiad gan Dr Lloyd i ddychwelyd i'r Pwyllgor Iechyd yn ystod yr wythnosau nesaf hefyd. Felly, bydd cyfleoedd imi amlinellu lle mae'r GIG arni a wynebu cwestiynau gan Aelodau ynglŷn â hynny.