Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 13 Mai 2020.
Drefnydd, rwy'n ddiolchgar iawn eich bod wedi rhoi sylw i'r sefyllfa o ran y diwydiant twristiaeth ac rydych chi wedi cyfeirio ato droeon wrth drafod eich datganiad. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol iawn mai twristiaeth a lletygarwch yw'r sectorau busnes y mae'n debygol y bydd angen cymorth tymor hwy arnyn nhw nag ar sectorau eraill a allai ddechrau gweithio'n gyflymach o lawer, a fy nealltwriaeth i yw bod trafodaeth yn digwydd rhwng y pedair Llywodraeth ar draws yr ynysoedd hyn gan ystyried pa gymorth tymor hwy y gellid ei ddarparu a chan ddeall y gall fod angen i Lywodraeth y DU chwarae fwy o ran yn hynny.
A allwch chi roi sicrwydd inni heddiw, Trefnydd, y byddwch, yn y trafodaethau hynny, yn parhau i ddadlau o blaid Cymru yn cael, nid cyfran yn ôl fformiwla Barnett, ond cyfran deg o unrhyw un o'r adnoddau hynny yn y DU? Gan ei fod—fel yr ydych chi eisoes wedi sôn heddiw, mae twristiaeth yn rhan fwy o lawer o'n heconomi ni nag yw, er enghraifft, yn y rhan fwyaf o Loegr. Ac os oes cefnogaeth i'r DU gyfan, mae angen ei dosbarthu ar sail pa mor bwysig yw'r rhan y mae twristiaeth yn ei chwarae yn economi'r gwledydd a'r rhanbarthau ac nid ar sail y fformiwla hen ffasiwn yr ydym ni i gyd yn gwybod nad yw'n gweithio'n dda iawn beth bynnag.