6. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 13 Mai 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 5:11, 13 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ers fy natganiad diwethaf ar 8 Ebrill, mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar gefnogi ein cynhyrchwyr bwyd, diogelu ein hamgylchedd, a chynnal seilwaith hanfodol a rheoli heintiau. Ein prif flaenoriaeth fu mynd i'r afael â'r caledi uniongyrchol a achoswyd gan y pandemig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag awdurdodau lleol ym mhob rhan o Gymru i ddarparu dros 30,000 o barseli bwyd i aelwydydd sydd mewn mwyaf o berygl oherwydd COVID-19 ac sydd wedi eu cynghori gan y prif swyddog meddygol i beidio â gadael eu cartrefi. Mae'r bartneriaeth hon rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi bod yn llwyddiant ysgubol, a hoffwn ddiolch i bawb sy'n gysylltiedig.

Ers 23 Ebrill, mae busnesau pysgota wedi gallu gwneud cais am grant caledi pysgodfeydd Cymru. Hyd at yr wythnos diwethaf, roedd 124 o geisiadau wedi dod i law, a mwy na £250,000 o gymorth grant eisoes wedi ei dalu. Hyd yn hyn, mae'r holl geisiadau wedi eu prosesu o fewn 10 diwrnod gwaith.

Ddydd Sadwrn, cyhoeddais y bydd gan ffermwyr llaeth, sydd wedi colli mwy na 25 y cant o'u hincwm yn ystod mis Ebrill a mis Mai, yr hawl i hyd at £10,000, i dalu am 70 y cant o'r incwm y maen nhw wedi'i golli.

Mae Hybu Cig Cymru wedi lansio ymgyrch sy'n cynnwys cogyddion uchel eu proffil ac enwogion eraill i gynhyrchu fideos ryseitiau i annog pobl yng Nghymru i helpu ein ffermwyr trwy brynu cynnyrch o Gymru. Mae fy swyddogion hefyd wedi cydweithio'n agos â Llywodraethau ym mhob rhan o'r DU i gydweithio ar ymgyrchoedd hyrwyddo ar gyfer y sectorau llaeth, cig eidion a chig oen.

Rwyf i a'm swyddogion mewn cysylltiad cyson â chynrychiolwyr o bob sector o'r economi wledig i fonitro'r heriau sylweddol sydd o'n blaenau o hyd a'r angen am ragor o gymorth. Yn ogystal â chefnogi'r rhai sy'n wynebu caledi o ganlyniad i'r pandemig, rydym ni wedi sicrhau bod gwaith hanfodol i gefnogi economi wledig Cymru ac i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur yn parhau yn ddiogel.

Rwyf i wedi ysgrifennu at yr holl aelwydydd yr effeithiodd llifogydd mis Chwefror arnyn nhw i amlinellu'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw, gan gynnwys y cymorth y gallan nhw ei gael trwy eu hawdurdodau lleol, ac i roi gwybod iddyn nhw am yr estyniad i'r dyddiad cau i hawlio'r cymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.

Rwyf i wedi gwneud datganiadau cyhoeddus yn atgoffa pobl i barchu'r gweithwyr yn y sectorau dŵr ac ynni, sy'n parhau i gynnal ein seilwaith hanfodol wrth gadw at drefniadau cadw pellter cymdeithasol.

Mae fy swyddogion wedi bod yn cefnogi'r proffesiwn milfeddygol i weithio'n agos gyda'n ffermwyr i ddod o hyd i ffyrdd o reoli eu swyddogaeth i gefnogi trefniadau rheoli clefydau a bioddiogelwch ar ffermydd ac mewn marchnadoedd da byw. Ni allwn fforddio llacio prosesau brwydro yn erbyn clefydau anifeiliaid a hyrwyddo'r safonau uchaf o ran lles anifeiliaid.

Hoffwn dynnu sylw fy nghyd-Aelodau at waith Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd wedi bod yn ymdrin â heriau anferthol yn ystod y pandemig presennol. Ar yr un pryd â pharhau â'u gwaith rheoleiddio hanfodol a rheoli ein mawndiroedd a'n coedwigoedd, maen nhw wedi ymdrin â thanau dinistriol a digwyddiadau llygredd. Rwy'n arbennig o falch bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gallu ymweld â safleoedd sy'n eiddo i'r sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol hynny sydd wedi gorfod rhoi eu staff ar ffyrlo, er mwyn helpu i sicrhau y gellir cymryd unrhyw gamau angenrheidiol i ddiogelu'r safleoedd hynny.

Mae ymdrechion ein busnesau bwyd a diod yng Nghymru wedi gwneud argraff fawr iawn arnaf nid yn unig wrth ddod o hyd i ffyrdd o fasnachu'n ddiogel ond hefyd i gefnogi'n uniongyrchol yr ymdrechion i fynd i'r afael â COVID-19 a chefnogi ein gweithwyr allweddol. Mae ein menter clwstwr bwyd a diod wedi ceisio cefnogi'r busnesau hyn hefyd trwy greu cyfeirlyfr o'r cynhyrchwyr hynny o Gymru sy'n cynnig gwasanaeth danfon nwyddau ar-lein, sydd ar gael ar wefan Cywain. Rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau yn annog eu hetholwyr i brynu gan y busnesau bwyd a diod gwych hynny yn eu hardal.

Yn olaf, hoffwn ddychwelyd at adferiad. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais grynodeb o'r ymatebion i'n hymgynghoriad ar ffermio cynaliadwy. Mae cynigion Llywodraeth Cymru yn cynnig mai diben yr holl gymorth ariannol i ffermwyr yn y dyfodol fydd eu galluogi i reoli eu tir er mwn iddyn nhw allu cynhyrchu bwyd o'r ansawdd gorau a'r safonau lles uchaf wrth ehangu'r rhan maen nhw'n ei chwarae wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yng Nghymru. Rwy'n credu bod yr ymatebion yn dangos yn glir bod y sector yn fwy na pharod i ymateb i'r her hon.

Bydd y cam nesaf o gyd-gynllunio yn cael ei gymryd o bell erbyn hyn, gyda chymorth ychwanegol i'r rhai sy'n gweld y dulliau hyn yn fwy anodd cael gafael arnynt. Wrth i ddiwedd cyfnod pontio'r UE brysur agosáu ac yn sgil amodau hynod heriol y farchnad y mae ffermwyr yn eu hwynebu, rydym ni o'r farn nad oes amser i'w golli wrth weithio yn agosach fyth gyda'r sector ffermio i sefydlu cynllun newydd sy'n gallu caniatáu i'r sector fod yn fwy cydnerth ar gyfer y dyfodol.

Rwyf i'n credu, pan fydd hi'n ddiogel, a dim ond pan fydd hi'n ddiogel i wneud hynny, bod angen i ni roi blaenoriaeth i ailagor y sector bwyd a lletygarwch er mwyn ailfywiogi busnes ar hyd y gadwyn gyflenwi. Mae'n rhaid i ni alluogi ein milfeddygon i ailafael ag ehangder a chyflymder arferol eu gwaith ac mae'n rhaid i ni fod mewn sefyllfa pan allwn ni annog dinasyddion Cymru i fwynhau ein cefn gwlad prydferth unwaith eto.

Bydd y newidiadau i'r rheoliadau yr wythnos diwethaf, sy'n caniatáu i bobl wneud ymarfer corff yn lleol fwy nag unwaith y dydd, yn rhoi mwy o gyfleoedd i werthfawrogi natur ar garreg ein drws, a fydd yn llesol i'n lles corfforol a meddyliol. Fodd bynnag, fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud lawer gwaith, byddwn yn bwrw ymlaen yn ofalus ac yn bwyllog, wedi ein harwain gan y wyddoniaeth, a dim ond llacio'r mesurau pan fyddwn ni'n ffyddiog fod y dystiolaeth yn cefnogi hynny.

Byddwn yn goresgyn effaith y coronafeirws marwol dim ond os gallwn ni ddod o hyd i ffyrdd o gydweithio'n agosach fyth ar draws Llywodraeth, sectorau a chymunedau. Rwyf i a Gweinidogion eraill wedi cael llawer o drafodaethau eisoes gyda rhanddeiliaid ynghylch yr hyn y dylai adferiad gwyrdd o COVID-19 ei gynnwys yng Nghymru, a byddaf i'n parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'r cynlluniau hyn ddatblygu. Rwy'n benderfynol y bydd yr adferiad o bandemig COVID-19 yn cyflymu ac na fydd yn ein hatal ni rhag newid i economi carbon isel a Chymru iachach a mwy cyfartal. Diolch.