Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 13 Mai 2020.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Dyma'r tro cyntaf i mi ymddangos trwy Zoom, a hoffwn gofnodi fy niolch i staff y Senedd sydd wedi gwneud hyn yn bosibl—roedd hynny oherwydd fy amgylchiadau fy hun gartref. Ac fe fyddaf yn defnyddio'r cyfle hwn, hefyd, i ddiolch o galon i'r holl weithwyr allweddol sydd wedi cadw'r wlad hon i fynd, ac i'r rhai hynny sy'n dilyn y rheolau ac yn chwarae eu rhan.
Mae rhai, fel ninnau, nad yw'r pandemig wedi effeithio arnyn nhw yn ariannol i raddau helaeth; nid yw eraill mor ffodus. Ar y dechrau, cefais i fy synnu gan gyflymder a graddfa ymateb Llywodraeth y DU yng nghyswllt y cynllun ffyrlo a phecynnau cymorth eraill. Fodd bynnag, yn fy marn i, mae cymorth Llywodraethau Cymru a'r DU i ffermwyr wedi dangos diffyg paratoi sylweddol ac mae wedi bod yn hynod hirwyntog, yn enwedig ar gyfer y diwydiant llaeth. Dim ond yr wythnos diwethaf y cafodd cymorth ei gyhoeddi o'r diwedd, tra bod eraill wedi bod ar ffyrlo ar 80 y cant o'u cyflog am oddeutu wyth wythnos. Mae wedi bod yn araf iawn.
Yn y dyddiau cynnar, cyn ac ar ôl y cyfyngiad symud, fe wnaethom ni weld sut, yn sydyn, y daeth cyflenwadau bwyd yn arbennig a rhai nwyddau cartref yn hollbwysig. Mae banciau bwyd wedi bod yn crefu am gymorth, ac eto mae llaeth amrwd wedi ei daflu i lawr y draen. Dyna wastraff o fwyd hanfodol a ffynhonnell incwm i ffermwyr llaeth. Rwy'n croesawu'r ffaith fod cymorth ar gael erbyn hyn, ond rwy'n pryderu am yr holl fiwrocratiaeth y mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ffermwyr ei oresgyn i'w chael. Rwyf i mor falch eich bod chi'n rhoi'r pwyslais ar sicrhau bod y trefniadau yn iawn. Rydych chi newydd ddweud bod tua 100 o ffermwyr sydd wedi gwneud cais am y grant hwn. A allwch chi gadarnhau yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud, y bydd yr arian yn eu cyfrifon banc o fewn chwech i 10 diwrnod?
Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i holl Weinidogion Llywodraeth Cymru a'u staff am eu hymdrechion yn ystod y cyfnod hwn. Mae'n amlwg wedi bod yn dasg anferthol i bawb.
Ac yn olaf, wrth edrych i'r dyfodol, bydd gwersi i'w dysgu ac arloesedd i'w ddathlu. Rwyf i yn gwerthfawrogi ei bod hi'n ddyddiau cynnar, ond mae gen i ddiddordeb mewn clywed yr hyn y byddwch chi'n ei wneud i ymwreiddio'r polisïau hyn yn ymarferol, wrth symud ymlaen. Diolch.