5. Dadl: COVID-19 — Llacio'r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas a'n Heconomi: Dal i Drafod

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 20 Mai 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 3:50, 20 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.

Er fy mod yn derbyn bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd er mwyn arwain Cymru allan o gyfnod y pandemig presennol, mae'n rhaid imi ddweud o'r cychwyn cyntaf fod hwn wedi bod yn gyfle a gollwyd i Lywodraeth Cymru ddarparu rhywfaint o obaith mawr ei angen i bobl Cymru.

Nawr, os caf droi at ein gwelliannau—ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ystyried cefnogi pob un ohonynt gan mai bwriad y gwelliannau hyn yw ychwanegu'n adeiladol at gynnig y ddadl hon—mae'r gwelliant cyntaf yn galw am fwy o gydweithredu â Llywodraethau ledled y DU. Nawr, mae arweinydd Plaid Lafur y DU wedi galw yn gwbl briodol am ddull pedair gwlad o weithredu—dull rwyf wedi'i gymeradwyo drwy gydol cyfnod y pandemig. Nid yw'r feirws COVID-19 yn adnabod unrhyw ffiniau, ac felly mae'n gwneud synnwyr perffaith y dylai Llywodraethau ar bob lefel fod yn gweithio gyda'i gilydd i amddiffyn pobl y Deyrnas Unedig drwy gydol y pandemig hwn.

Er bod Llywodraethau'r DU a Chymru wedi gweithio gyda'i gilydd ar faterion, mae’r gwahaniaeth rhwng rhai o bolisïau Cymru a Lloegr, yn gwbl ddealladwy, wedi drysu rhai pobl a’u gwneud i deimlo’n rhwystredig, a'r gwir amdani yw bod llawer mwy o ddealltwriaeth ac eglurder ynghylch canllawiau'r Llywodraeth pan oedd polisïau'r Llywodraethau wedi'u halinio'n agosach.

Nawr, rwyf wedi dweud yn glir y dylai strategaeth ymadael Llywodraeth Cymru fod wedi’i hategu â chynigion pendant a cherrig milltir ar gyfer asesu cynnydd y Llywodraeth. Nid yw'r ddogfen hon yn cynnig unrhyw fanylion clir i bobl Cymru y gellir mesur cynnydd yn eu herbyn, ac yn lle hynny, mae'r strategaeth ymadael i bob pwrpas yn rhestr o gamau ymgynghori y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cychwyn. Nid oes unrhyw amserlenni dangosol ar gyfer codi’r cyfyngiadau symud, ac felly nid yw unigolion a busnesau ledled Cymru yn well eu byd o gwbl o ran gallu dechrau cynllunio ar gyfer bywyd ar ôl y cyfyngiadau symud. Felly, gallaf ddeall y rhwystredigaeth lwyr a deimlir gan gynifer o bobl a oedd wedi gobeithio, ddydd Gwener diwethaf, y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu cynllun y gallent ei ddilyn gyda sicrwydd. Roedd Ian Price, cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru yn iawn i ddweud, ac rwy'n dyfynnu, fod angen amserlenni dangosol sy'n amlinellu pryd y gall sectorau a gweithleoedd ddod yn weithredol eto hefyd, fel y gall busnesau o bob lliw a llun fynd i’r afael ar unwaith â chynlluniau hanfodol i ailgychwyn ac i wneud penderfyniadau.

Mae gwledydd fel Iwerddon, er enghraifft, wedi cydnabod pwysigrwydd amserlenni ac wedi eu darparu yn eu strategaeth ymadael. Fodd bynnag, pan fydd y wyddoniaeth yn newid, rwy'n derbyn y gallai fod angen i Lywodraethau newid trywydd, ac o ganlyniad, efallai y bydd angen i'r amserlenni hynny newid. Nawr, nid yw cynllun Llywodraeth Cymru yn cynnwys strategaeth gynhwysfawr ar gyfer sut a phryd y gellir llacio’r cyfyngiadau. Yn wir, mae'r ddogfen ei hun yn cadarnhau bod manylion penodol ar bob label yn dal i gael eu datblygu gyda busnesau, undebau llafur, awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ac eraill.

Nawr, wrth symud ymlaen, credaf y dylai Llywodraeth Cymru fod yn sefydlu tasgluoedd mewn adrannau gweinidogol allweddol i oruchwylio’r broses o roi ei strategaeth ymadael ar waith. Ym mhob maes portffolio, dylai Gweinidogion fod yn ystyried y ffordd orau o gydlynu'r tasgluoedd hynny a dylid eu rhoi ar waith ar unwaith. Er enghraifft, dylai Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru fod yn gweithio gyda thasglu pwrpasol i baratoi busnesau ledled Cymru ar gyfer ailagor a sicrhau bod ganddynt well dealltwriaeth o'r heriau penodol y gallai busnesau eu hwynebu wrth symud o un categori i'r llall. Mae Llywodraeth Cymru yn iawn i ddweud nad oes unrhyw ddau fusnes yr un peth, a dyna pam fod angen sefydlu tasglu i sicrhau bod barn y gymuned fusnes yn cael ei chlywed ar bob cam yn y broses. Yn yr un modd, dylai'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol fod yn sefydlu tasglu i oruchwylio gweithrediad y strategaeth ymadael gyda darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ac awdurdodau lleol.

Nawr, er mwyn osgoi ail ymchwydd sylweddol, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir ei bod yn rhoi'r seilwaith sydd ei angen ar waith i reoli achosion o'r clefyd yn y dyfodol drwy'r strategaeth brofi, tracio a diogelu. Wrth gwrs, er mwyn i hynny fod yn bosibl yn realistig, bydd angen chwistrelliad sylweddol o arian ar awdurdodau lleol ledled Cymru i sicrhau y gellir cyflawni'r profion hyn ar raddfa fawr. Nid yn unig fod goblygiadau sylweddol o ran adnoddau i awdurdodau lleol, ond yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae materion recriwtio sylweddol i'w hystyried hefyd. Ac felly, wrth ymateb i’r ddadl y prynhawn yma, efallai y gall Llywodraeth Cymru roi sicrwydd pendant y gall ei rhaglen brofi ymdopi â’r cynnydd sylweddol yn y profion a gynhelir yn y gymuned ynghyd â chadarnhau faint yn union y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddyrannu i awdurdodau lleol i’w galluogi i gynnal y profion hyn.

Lywydd, nid yw cynllun Llywodraeth Cymru yn darparu manylion ariannol addas i gefnogi’r gwaith o’i gyflawni, ac felly nid oes unrhyw arwydd sut y bydd adnoddau'n cael eu dyrannu i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflawni’n effeithiol. Nawr, gwn fod cyllideb atodol ar y ffordd, ac yn ogystal â'r manylion y soniodd y Prif Weinidog amdanynt yn ei ddatganiad heddiw, rwy'n gobeithio y bydd hefyd yn cynnwys manylion ariannol penodol ynglŷn â sut y caiff y cynllun ei gyflawni. Ac mae'n gwbl hanfodol fod yr adnoddau hynny a ddyrennir yn nodi'n glir sut y mae pob maes portffolio nid yn unig yn cyfyngu ar effaith y feirws ar unigolion, cymunedau a busnesau ledled Cymru yn y tymor byr, ond sut y bydd gwasanaethau cyhoeddus a busnesau yn gallu gweithredu strategaeth ymadael Llywodraeth Cymru.

Felly, gyda hynny, Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi ein gwelliannau i helpu i sicrhau bod Cymru mor barod â phosibl ac yn cael adnoddau digonol i ddechrau ein rhyddhau o’r cyfyngiadau symud. Diolch.