Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 20 Mai 2020.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch yn gyntaf i'r Prif Weinidog am ei sylwadau caredig ynglŷn ag ysbryd y gwelliannau? Roeddent yn cynnwys cyfeiriad pryfoclyd at yr un gwelliant nad yw'r Llywodraeth wedi gallu ei dderbyn. Rwy'n gobeithio nad yw’n cyfeirio at y gwelliant sy'n galw am gefnogaeth i'r cais, y cais unfrydol, gan y pedwar prif gwnstabl a'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu am gynyddu'r dirwyon i'r rheini sydd wedi torri rheolau’r cyfyngiadau symud fel y gallant wneud eu gwaith o amddiffyn pobl yn ein cymunedau.
Nawr, y cwestiwn cyntaf, a'r cwestiwn pwysicaf oll yn fy marn i wrth feddwl am y cam nesaf, yw beth y ceisiwn ei gyflawni. Ymddengys i mi fod gennym ddewis yma sy’n seiliedig ar y strategaethau y mae gwledydd eraill wedi'u dilyn—ac mae cyfeiriad yn y ddogfen a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth at ddysgu gan wledydd eraill. Gallwn fabwysiadu strategaeth atal i geisio cael gwared ar yr afiechyd, sef y dull y mae Seland Newydd ac eraill wedi'i fabwysiadu, neu gallwn geisio lefelu'r gromlin, fel y’i gelwir, unwaith eto, gan ganolbwyntio’n bennaf ar geisio sicrhau nad yw'r GIG yn cael ei orlethu gan ail neu drydedd ton.
Nawr, rydym wedi gofyn i'r Llywodraeth egluro pa un o'r ddwy strategaeth y mae'n eu mabwysiadu, a byddai'n dda cael eglurder ar hynny heddiw, gan y credaf fod iaith y dogfennau adfer a’r cynllun braidd yn amwys ar ryw ystyr, oherwydd y pwyslais cryf ar bwyntiau profi, olrhain ac ynysu i un cyfeiriad, ond yn y ddogfen, er enghraifft, a ryddhawyd ar 24 Ebrill, un o'r metrigau allweddol a bennwyd ar gyfer gwerthuso mesurau llacio yw
'tystiolaeth y gallwn ymdopi â’r cynnydd disgwyliedig mewn anghenion gofal iechyd am o leiaf 14 diwrnod os yw’r gyfradd heintio yn mynd dros 1 a’r feirws yn lledaenu’n eang unwaith eto.'
Mae hynny'n swnio'n fwy fel pe bai'n cyfeirio at reoli lledaeniad y clefyd o dan lefel gritigol, yn hytrach na cheisio cael gwared ar yr afiechyd lle bynnag y mae'n ailymddangos.
Mae dull Seland Newydd yn golygu rhoi diwedd ar drosglwyddiad cymunedol eang cyn llacio’r cyfyngiadau symud, ac mae hefyd yn golygu ymwrthod â’r dull imiwnedd torfol wrth gwrs. Roeddem wedi cynnig dau welliant ar y ddau fater. Nid ydynt wedi cael eu dewis, ond efallai y gallai'r Prif Weinidog, wrth ymateb, nodi beth yw safbwynt y Llywodraeth.
Gan symud ymlaen i—. Yn ogystal â rhoi diwedd ar drosglwyddiad cymunedol yn gyntaf, credwn mai ail ragofyniad ar gyfer dod â mesurau cyfyngiadau symud sylweddol i ben yw sicrhau bod y system olrhain cysylltiadau ac ynysu yn gwbl weithredol ac yn llwyddiant profedig. Mae gennym gynlluniau peilot, ond mae angen amser arnom i werthuso'r rheini cyn cadarnhau eu bod yn gweithio'n iawn. A’r hyn y byddai'n dda ei wybod gan y Prif Weinidog yw: sut beth yw llwyddiant? Pa lefel o gyfran y cysylltiadau sydd angen inni allu eu holrhain er mwyn rheoli achosion lleol? Ai 50 cant, ai 80 y cant, ynteu 90?
Mae'r pwyslais yn nhrefniadau goleuadau traffig Llywodraeth Cymru yn sectoraidd, ac ar y llaw arall, mae gan Lywodraeth y DU system rybudd pum lefel ar waith yn genedlaethol. Mae perygl y gallai hyn beri peth dryswch fan lleiaf. Un awgrym diddorol yw y bydd y Gyd-Ganolfan Bioddiogelwch yn cynhyrchu asesiadau cyfradd heintio ar lefel leol iawn, ac y gellid eu defnyddio wedyn i atal mannau problemus lleol newydd drwy ailgyflwyno cyfyngiadau symud ar lefel leol. Yn wir, rydym wedi clywed meiri yn Lloegr fel Andy Burnham yn galw am ddull mwy datganoledig, a gefnogir hefyd gan Sefydliad Iechyd y Byd. A yw Llywodraeth Cymru yn gweld rhywfaint o botensial yn y cam nesaf ar gyfer y math hwnnw o ddull lleol?
Ac yn olaf, nid profi ac olrhain yn unig ydyw wrth gwrs, ond profi, olrhain ac ynysu. Y sefyllfa bresennol yw y dylai pobl â symptomau ynysu am saith diwrnod. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell cyfnod o 14 diwrnod dan gwarantin i bobl â symptomau, ac ymddengys bod hynny’n seiliedig ar dystiolaeth, gan y gallai rhai pobl ddal i ledaenu'r feirws am fwy na saith diwrnod. Felly, a wnaiff y Llywodraeth edrych ar hynny a’i fabwysiadu, yn seiliedig ar gyngor Sefydliad Iechyd y Byd?
Ac yn olaf, a allem hefyd ystyried sefydlu pwyntiau cwarantin canolog i bobl allu ynysu, er enghraifft gwestai wedi'u haddasu? Gwyddom fod y feirws yn manteisio ar dai gorlawn. Gwyddom fod llawer o bobl wedi dal y feirws gan aelod o'r teulu neu gyd-letywyr. Mae sefydlu'r mathau hyn o gyfleusterau cymunedol ar gyfer cwarantin wedi bod yn allweddol i gael gwared ar y feirws yn Wuhan a rhannau o'r Eidal, a byddai llawer o bobl hefyd yn teimlo'n dawelach eu meddwl nad oeddent yn peryglu aelodau o'u teuluoedd. Felly, a allai'r Llywodraeth, wrth inni ddechrau'r cam newydd hwn gyda phrofi, olrhain ac ynysu, edrych ar gryfhau'r elfen 'ynysu' yn y mesurau?