Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 20 Mai 2020.
Lywydd, dros yr wyth wythnos ddiwethaf, mae'r ymateb gan bobl ledled Cymru wedi bod yn rhagorol. Mae ein hymdrechion ar y cyd wedi helpu i arafu lledaeniad y feirws ac wedi helpu'r GIG i baratoi ac i ymateb. Os bydd y gyfradd heintio, o ganlyniad i'r ymdrechion hyn, yn parhau i ostwng, bydd ystod well o ddewisiadau ar gael i lacio'r cyfyngiadau symud.
Roedd ein dogfen fframwaith dair wythnos yn ôl yn nodi sut rydym yn bwriadu gwneud penderfyniadau ynghylch llacio’r cyfyngiadau aros gartref. Mae’r ddogfen a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf yn mynd â ni ymhellach. Mae ein cynllun yn seiliedig ar system oleuadau traffig. Mae'n nodi cyfres o newidiadau y gellid eu gwneud mewn nifer o feysydd, gan gynnwys gweld ffrindiau a theulu, mynd yn ôl i'r gwaith, siopa ac ailagor gwasanaethau cyhoeddus.
Mae pobl yn ganolog i'n ffordd o feddwl. Gwyddom pa mor awyddus yw pawb i weld eu teuluoedd a’u ffrindiau, ac mae hon yn ystyriaeth allweddol i ni. Nid cynllun i gael pobl yn ôl i'r gwaith yn unig mo hwn, er mor bwysig yw hynny, ond cynllun ar gyfer pobl hefyd.
Nid yw'r cynllun yn nodi dyddiadau, gan y bydd newidiadau'n cael eu gwneud pan fydd y cyngor gwyddonol a meddygol yn dweud wrthym ei bod yn ddiogel inni wneud hynny, ond mae'n dangos sut rydym yn symud yn ofalus ac yn bwyllog i'r parth coch—y camau cyntaf ar daith ein hadferiad. Byddwn yn monitro effeithiau'r camau hynny’n ofalus iawn, a chyn belled â bod y feirws yn parhau i fod dan reolaeth, byddwn yn symud tuag at y parth ambr. Yn y parth ambr, bydd mwy o arwyddion o rywbeth tebyg i normalrwydd, ac os bydd ein monitro'n dangos bod y feirws yn dal i fod o dan ein rheolaeth, gallwn ddechrau symud i'r parth gwyrdd. Yn y parth gwyrdd, mae bywyd yn dechrau edrych yn debycach i'r hyn ydoedd cyn i’r coronafeirws ddechrau, ond nid yn union yr un fath, oherwydd hyd nes y down o hyd i frechlyn neu driniaeth effeithiol, bydd y coronafeirws gyda ni am beth amser eto.
Nawr, mae rhai pethau eisoes wedi dechrau llacio. Mae siopau'n agor ar gyfer gwasanaethau clicio a chasglu, mae canolfannau ailgylchu’n dechrau ailagor, ac mae cynlluniau ar y gweill i weld a ellir ailddechrau gwasanaethau llyfrgell hefyd. Mae canolfannau garddio’n agor, wrth gwrs, gyda threfniadau cadw pellter cymdeithasol ar waith. Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi nodi ei dull o fynd ati gydag ysgolion, a bydd mwy o fanylion yn cael eu darparu ar gyfer sectorau eraill wrth inni weithio gyda'n partneriaid yn yr undebau llafur, mewn busnesau ac yn y sector cyhoeddus ehangach.
Lywydd, mae'n gwbl iawn ein bod yn dadlau ynghylch ein gwahanol safbwyntiau ar hyn, y set bwysicaf o amgylchiadau rydym wedi'u hwynebu ers cychwyn datganoli. Ond yn yr argyfwng hwn, credaf fod pobl Cymru am i bob un ohonom ddod at ein gilydd lle gallwn a rhannu ymdeimlad o’n buddiannau cyffredin. Yn yr ysbryd hwnnw, rwy’n falch iawn y gall y Llywodraeth gefnogi pob un ond un o’r gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig heddiw. Lywydd, dychwelaf at yr holl welliannau wrth ymateb i'r ddadl, ond hoffwn ddiolch i'r pleidiau sydd wedi'u cynnig am eu llunio mewn ysbryd adeiladol, ac am y cyfraniad cadarnhaol a wnânt i'r ddadl hon.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Llywodraeth ein cynllun profi, olrhain, diogelu, a fydd yn hanfodol wrth inni lacio’r cyfyngiadau symud. Mae’n rhaid i unrhyw ymgais i ailddechrau gweithgareddau mwy normal ddigwydd law yn llaw â chynllun hyfyw i olrhain a nodi unrhyw achosion newydd a'r mannau problemus o ran yr haint wrth iddynt ddod i'r amlwg. Mae’r ddogfen a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf yn seiliedig yn yr un modd ar y cyngor gwyddonol diweddaraf. Byddwn yn gweithredu'n ofalus ac yn bwyllog mewn partneriaeth â phobl, mewn ffordd sy'n iawn i Gymru. Bydd hynny bob amser yn golygu rhoi iechyd pobl yn gyntaf.
Nawr, Lywydd, rwyf bob amser wedi dweud ein bod yn awyddus i symud gyda'n gilydd ledled y Deyrnas Unedig, gan mai dyna'r ffordd orau ymlaen i bob un ohonom. Ddydd Sul, cyfarfûm â Michael Gove, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, a’m swyddogion cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, i drafod materion yn ymwneud â gosod pobl o dramor dan gwarantin. Ddoe, cyfarfûm â fy nghyd-Aelodau datganoledig a Maer Llundain, unwaith eto i barhau â’n trafodaeth, ac mae cyfarfod pellach wedi’i drefnu rhwng y Llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU yn ddiweddarach yr wythnos hon. Rydym yn ymgysylltu'n weithredol â gweinyddiaethau eraill drwy gydol yr argyfwng hwn, ond wrth gwrs, byddwn yn gwneud ein penderfyniadau ac yn arfer ein cyfrifoldebau er budd Cymru.
Lywydd, mae angen i mi bwysleisio bod y feirws yn parhau i fod yn fygythiad ac y bydd yn parhau i fod felly hyd yn oed wrth inni gymryd camau tuag at fwy o normalrwydd. Nid oes dyfodol di-risg. Mae'r rheol i gadw pellter cymdeithasol o 2m yn parhau i fod ar waith, ac mae’n rhaid i bob un ohonom arfer y rhagofalon iechyd cyhoeddus sylfaenol hynny, gan olchi ein dwylo’n ofalus ac yn aml, er enghraifft. Dylid teithio’n lleol yn unig, a dylai unrhyw deithio fod yn hanfodol. Mae hyn oll ar waith er mwyn parhau i leihau'r risg o ledaenu coronafeirws. Yn ein dwy ddogfen, rydym wedi nodi llwybr tuag at wneud y penderfyniadau hanfodol hynny. Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith inni adolygu deddfwriaeth a chodi cyfyngiadau pan nad oes cyfiawnhad drostynt mwyach. Mae dewisiadau i'w gwneud ar bob pwynt ar hyd y llwybr hwn. Mae angen cydbwyso buddiannau pob rhan o'n cymdeithas, a bydd y Llywodraeth hon bob amser yn rhoi sylw arbennig i'r rheini sy'n ei chael hi'n anodd o dan faich anghymesur anfantais.
Nawr, bydd yn rhaid inni wneud y penderfyniadau hynny ar batrwm 21 diwrnod, ac rydym bellach hanner ffordd drwy'r cylch tair wythnos diweddaraf. Byddwn yn parhau i gael ein harwain gan gyngor gwyddonol a chyngor ein prif swyddog meddygol, a bydd y penderfyniadau hynny’n parhau i gael eu llywio gan y nodau a'r ffyrdd o weithio sydd wedi'u hymgorffori yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a roddwyd ar y llyfr statud gan y Senedd hon.
Lywydd, mae rhai pobl yn annog llacio’r mesurau heb ystyried canlyniadau gwneud hynny. Dyma'r gwrthwyneb i'r dull o weithredu rydym yn ei ddefnyddio yng Nghymru, fel y nodir yn ein cynllun. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn mentro, ac ni fyddwn yn gweithredu ar fympwy. Mae fy neges yn un o undod parhaus yn wyneb y bygythiad mawr hwn i fywydau ac i gymdeithas—yr undod a fynegwyd mor gadarn gan unigolion a chymunedau ledled Cymru. Mae pob un ohonom wedi chwarae ein rhan, a chyda'n gilydd, gallwn barhau i amddiffyn ein gilydd a pharatoi i lacio cyfyngiadau ac adnewyddu ein gwlad. Diolch yn fawr.