Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 20 Mai 2020.
Diolch. Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd ddoe gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n cynnwys marwolaethau ym mhob lleoliad, yn dangos y bu 1,852 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig â’r feirws yng Nghymru hyd at 8 Mai, ac mae hynny’n golygu bod 1,852 o deuluoedd yn galaru. Felly, yn gyntaf, hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad a fy niolch diffuant fel yr Aelod o’r Senedd dros Islwyn am ymdrechion arwrol dynion a menywod y gwasanaeth iechyd gwladol, sy’n gwasanaethu ar y rheng flaen. Maent hwy, ynghyd â'r holl weithwyr gofal a gweithwyr hanfodol, yn parhau i sicrhau bod cymunedau Islwyn yn gweithredu, ac mae Cymru’n parhau i ddangos bod y fath beth â chymdeithas yn bodoli.
Felly, fel cynrychiolwyr gwleidyddol pobl Cymru, rydym yn edrych tua’r dyfodol a'r modd y gall Cymru symud ymlaen yn ddiogel ac yn rhagweithiol wrth inni geisio gweithredu'n fwy llawn fel cymdeithas gyda'n gilydd. Hoffwn groesawu sylwadau Ysgrifennydd iechyd Cymru y bydd Cymru’n mabwysiadu ymagwedd fwriadol ofalus tuag at lacio’r cyfyngiadau symud gyda’r adolygiad nesaf i'w gynnal ar 28 Mai. Mae'n iawn mai bywydau pobl sydd bwysicaf, nid brys di-feddwl. Fel y gŵyr yr Aelodau, fel sosialydd ar hyd fy oes, rwy'n credu bod yn rhaid i'n gweithredoedd polisi cyhoeddus gael eu llywodraethu gan egwyddorion a gwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol.
Mae'n bwysig ein bod yn hwyluso gweithgarwch pellach, ydy, ond nid cyn inni gael tystiolaeth ei bod hi'n ddiogel inni wneud hynny, gyda gweithgareddau awyr agored a chwaraeon unigol eraill sy'n caniatáu i bobl ailddechrau arni gan arfer synnwyr cyffredin a chadw pellter cymdeithasol, a mwynhau ymweld â chanolfannau garddio yn yr awyr iach a gweithgareddau awyr agored eraill. Gwyddom fod y feirws yn casáu golau haul a'r awyr agored.
Yn yr un modd, ac yn hollbwysig, fel Llywodraeth Lafur Cymru, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig ac yn ymroddedig, fel y buom erioed, i sicrhau bod aelodau tlotach a mwy bregus ein cymunedau—sy'n aml yn byw, fel y nodwyd eisoes, mewn cartrefi llai o faint, yn aml heb erddi mawr, yn aml mewn gofod cyfyng, neu mewn fflatiau heb ofod awyr agored—yn gallu profi, ac y byddant yn gallu profi mwy o ryddid er mwyn sicrhau iechyd meddwl gwell yn ogystal ag iechyd corfforol gwell. Fe wyddom, ac rydym wedi clywed eto heddiw, fod y feirws yn effeithio'n anghymesur ar y bobl dlotaf yn ein cymdeithas.
Gwyddom hefyd am beryglon y pandemig cudd o fewn y pandemig byd-eang hwn, sef menywod a'u plant yn bennaf, ond nid yn unig mewn unrhyw ffordd, sy'n cael eu gorfodi nawr i fyw o dan gyfyngiadau symud gyda phartneriaid camdriniol sy’n eu rheoli ac sy'n gallu manteisio'n ddiedifar ar reolau'r Llywodraeth er eu budd ffiaidd eu hunain. Felly, os yw hyn yn wir amdanoch chi neu rywun rydych yn eu hadnabod, mae’n rhaid i chi ddweud. Nid oes rhaid i chi ddioddef, ac mae cymorth a chefnogaeth ar gael i chi nawr.
Lywydd, fe ailadroddodd y Prif Weinidog heddiw sut y mae gweithredoedd Llywodraeth Cymru yn cael eu llywodraethu gan y wyddoniaeth. Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd cyfyngiadau ar gyfarfod â phobl o aelwydydd eraill yn yr awyr agored yn cael eu llacio. Gwyddom fod y feirws yn debygol iawn o ddirywio’n gyflym ar ôl ychydig funudau yn yr awyr agored ac ar arwynebau yng ngolau’r haul. A gwyddom hefyd am yr awydd cryf iawn sydd gan neiniau a theidiau i weld eu hwyrion a’u hwyresau, a’r ffordd arall. Nid yn Islwyn yn unig y teimlir hyn, ond y tu hwnt. Ond gŵyr pob un ohonom fod yn rhaid i’r amseru fod yn iawn.
Felly, fel y nododd y Prif Weinidog, mae COVID-19 yn ffynnu ar gadwyni cyswllt dynol. Mae’n rhaid i'r cyfyngiadau symud a'r normal newydd geisio cyfyngu ar y newidiadau hynny, oherwydd fel arall, ar sail tystiolaeth wyddonol, ofnwn y bydd y feirws yn lledaenu ac yn cynyddu eto. Dyma’r hyn y mae cyfyngiadau symud Cymru yn ceisio’i osgoi. Ar bob cyfrif, mae'n rhaid inni atal twf esbonyddol y lladdwr anweledig hwn. Nid yw'r hyn sy'n cael ei ruthro mewn cyfraith yn gyfraith dda, a chyda'r pandemig hwn, mae'r un egwyddorion yn berthnasol.
Yn olaf, rwy'n credu bod angen inni ddechrau llunio rhaglen etifeddol ar gyfer y daioni y gobeithiwn ei weld, fel y nodwyd gan eraill heddiw, o’r pandemig ofnadwy a thrasig hwn. Yng Nghymru, mae angen inni ystyried, fel y gwnaethom eisoes, ffordd newydd, mathau newydd o ddiwylliant gwaith, ffyrdd newydd o deithio, caffael, trefnu, addysgu a rheoli’r hinsawdd, ond yn bennaf, sut y gall y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, boed yn blant neu'n oedolion, gael eu diogelu'n well a'u cynorthwyo mewn cyfnodau da yn ogystal â'r cyfnod gwael y maent yn ei wynebu ar hyn o bryd. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno y byddwn yn gweld egin gwyrdd ag iddynt botensial mawr?
Ac fel y dywedodd y Prif Weinidog hefyd—