Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 20 Mai 2020.
Rwyf wedi clywed safbwyntiau eithaf gwahanol yma y prynhawn yma, ond rwy'n amlwg yn mynd i siarad o blaid y Llywodraeth, ac rwy'n falch iawn o fod yn rhan o grŵp—y grŵp sy'n rheoli yng Nghymru—lle mae'r holl adborth a gaf yn canmol y dull tawel, ystyriol o helpu i gadw pobl yn ddiogel yng Nghymru; o helpu pobl i ymdopi â sefyllfa ddigynsail lle mae gennym feirws sy'n llechu o'n cwmpas. Ac ni allwn ei weld, ni allwn ei deimlo, ni allwn ei gyffwrdd, ond un peth y gwyddom yw na allwn roi triniaeth i'w ddileu ar hyn o bryd chwaith.
Felly, rwyf wedi gwrando’n astud y prynhawn yma, ac mae Paul Davies yn ein cyhuddo o beidio â rhoi unrhyw obaith. Mae’n rhaid i mi wrthod hynny, yn amlwg, gan i mi ddarllen o’i ddatganiad fod gobaith, yn ei farn ef, yn golygu dilyn Llywodraeth ddi-hid y DU yn ddall. Mae hefyd yn galw am gydweithredu, ond serch hynny, rydym wedi gweld Llywodraeth y DU yn gwneud cyhoeddiad i agor ysgolion ym mis Mehefin yn Lloegr heb unrhyw ymgynghori, wrth gwrs, â'i gymheiriaid yn Lloegr sydd i fod i weithredu'r newidiadau hynny. Felly, credaf ei bod hi braidd yn anodd cydweithredu â Llywodraeth y DU pan na allant gydweithredu â'r awdurdodau llywodraeth leol o fewn eu ffiniau eu hunain hyd yn oed.
Rwyf wedi clywed cryn dipyn o sôn, unwaith eto, am wadu gwyddoniaeth, a gadewch inni beidio â chymryd sylw, wrth gwrs, o'r amcanestyniadau. Nid wyf yn synnu, wrth gwrs, fod Neil Hamilton wedi gwneud hynny, gan ei fod yn gwadu'r union wyddoniaeth sy'n dweud wrthym fod y newid hinsawdd yn digwydd o'n cwmpas, felly, o leiaf mae'n gyson yn hynny o beth. Ond yr hyn yr hoffwn ei drafod yma heddiw yw rhoi gobaith yn ôl i bobl, a dweud wrthynt y gallwch ymddiried mewn Llywodraeth a fydd yn mabwysiadu dull gofalus ac ystyriol o weithredu er mwyn eich helpu, a byddwn yn gwneud hynny, fel y nodwyd yn y ddogfen, drwy weld gwerth pob unigolyn, y bobl sydd ar y rheng flaen yn darparu gwasanaethau rydym oll yn eu gwerthfawrogi ac rydym yn mynd allan bob nos Iau i guro dwylo iddynt, a hynny'n hollol briodol. Ni fyddwn yn cyfeirio at y bobl hynny fel pobl 'heb lawer o sgiliau', a methu gweld eu gwerth—dyna'r union sgwrs a gafwyd yn San Steffan nos Lun pan fuom yn siarad am lafur gweithwyr mudol yn y GIG. Nid dyna a wnawn yng Nghymru, ac nid er mwyn bod yn wahanol; byddwn yn ei wneud am ein bod o ddifrif yn gwerthfawrogi'r bobl hynny. A phan ddown allan o hyn, byddwn yn parhau i weld eu gwerth gyda’r partneriaethau cymdeithasol, y contract, a fydd yn sicrhau y bydd yr holl gyfranogwyr o gwmpas y bwrdd ym mhob sgwrs ynglŷn â phobl yn dychwelyd yn ddiogel i'r gweithle. Golyga hynny y bydd y bobl sydd wedi cynnal y wlad drwy'r cyfnod eithriadol o anodd hwn yn parhau i gael eu gwerthfawrogi.
Dyna pam y byddaf yn cefnogi hyn heddiw, gan mai’r contract cymdeithasol hwnnw, y bartneriaeth gymdeithasol honno, dyna'n union sydd gennym yn awr, a dyna'n union fydd ei angen arnom ar gyfer y dyfodol. Ni allwn fynd yn ôl ar hynny byth. Rwy’n llwyr gefnogi’r datganiad a wnaed na fydd unrhyw gwmni yng Nghymru sydd wedi penderfynu peidio â thalu trethi yn y wlad hon yn cael unrhyw arian o bwrs y wlad. Os na allwch dalu i mewn i bwrs y wlad, pam ar y ddaear y dylid caniatáu i chi dynnu arian allan o'r pwrs cyhoeddus? Ac felly, wrth symud ymlaen, rydym wedi nodi ein safbwynt a byddwn yn cadw ato.
Rhaid i mi longyfarch yr holl bobl sy'n gweithio ar y rheng flaen yn y cyfnod anodd hwn. Ac mae’n gyfnod enbyd o anodd. Mae pobl wedi colli eu bywydau. Gwyddom hynny. Ac mae pobl yn cadw draw rhag aelodau o'u teuluoedd. Mae'r bobl sy'n darparu'r gwasanaethau rheng flaen yn hunanynysu ar wahân i’w teuluoedd. Ac rwyf wedi clywed enghreifftiau, enghreifftiau ofnadwy, o bobl sy'n rhannu llety, yn byw mewn mannau lle mae pobl eraill yn byw—llety a rennir—ac eto mae'r bobl eraill sy'n rhannu'r llety hwnnw yn eu hynysu, a chredaf fod angen i chi edrych ar hynny.
Rwyf am ddirwyn i ben, a hoffwn gofnodi fy mod yn llwyr gefnogi'r cynnig wrth symud ymlaen. Diolch.