Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 20 Mai 2020.
Iawn, diolch yn fawr, Llywydd. Mae sefydlu cyfundrefn gadarn ar gyfer profi, olrhain ac ynysu pob achos o'r COVID yn gorfod bod yn gwbl greiddiol i'r cynlluniau ar gyfer codi'r cyfnod clo, yn cynnwys ailagor ysgolion. Mae'r cyhoedd angen negeseuon clir iawn am y broses, ac mae angen trefniadau cadarn ar gyfer y cyfnod ynysu, a threfniadau priodol i bobl fedru ynysu i ffwrdd o'u cartref os oes angen. Law yn llaw â hynny, mae angen data manwl am yr epidemig ym mhob awdurdod lleol hyd at lefel ward.
Mi fydd ailagor ein hysgolion gam wrth gam yn ddibynnol iawn ar lwyddiant y strategaeth profi, olrhain ac ynysu. Os na fydd gan rieni a disgyblion a staff yn ein hysgolion eu ffydd yn y system honno, mi fydd hi'n anodd iawn i'w darbwyllo nhw i fynd yn ôl i'r ysgol. Hyd yn oed os ydy'r holl fesurau angenrheidiol yn eu lle—y materion sy'n cael eu trafod yn fframwaith penderfynu y Gweinidog Addysg—os nad oes yna hyder yn y gyfundrefn brofi, fe fydd ailagor ysgolion yn dasg anodd iawn. Does dim ond yn rhaid inni edrych ar y ffrae fawr sydd yn digwydd yn Lloegr dros hyn, ac erbyn hyn dwi'n amheus iawn a fydd yr ysgolion yn ailagor yno ar 1 Mehefin. Mae'r undebau yn hollol iawn i fynnu bod cyfundrefn brofi ac ynysu effeithiol ar waith cyn agor yr ysgolion yna, ac mae hyn wedi dangos ffolineb gosod dyddiad pendant ac wedyn canfod nad ydy'r elfennau pwysig o godi'r clo wedi cael eu cyflawni.
Mae agwedd ofalus Llywodraeth Cymru tuag at ailagor ysgolion o'i chymharu â rhuthr digynllun y Torïaid i'w chroesawu, felly. Dydy hi ddim yn glir eto beth ydy rôl plant wrth drosglwyddo'r feirws, ac mae yna sawl adroddiad sydd yn gwrthddweud ei gilydd, felly mae angen bod yn wyliadwrus o hynny, ac angen pwyll efo'r camau i ailagor ysgolion. Ond, mae angen hefyd fod yn ymwybodol iawn o'r niwed sy'n digwydd oherwydd bod yr ysgolion ar gau. Mae cyfnod y feirws wedi dangos mor bwysig ydy'r ysgolion ar gyfer lles nifer fawr o blant, ac mae'n loes calon gen i feddwl am y plant sydd ddim yn cael cefnogaeth oherwydd y feirws. Mae rhai plant yn cael eu cam-drin yn ystod y cyfnod clo, heb fedru troi at eu hysgol am gymorth. Mae gofalwyr ifanc dan bwysau sylweddol heb yr ysbaid mae'r ysgol yn ei gynnig, ac mae yna filoedd o blant sydd efo anableddau dysgu yn colli'r gefnogaeth ychwanegol a'r routine mae ysgol yn rhoi i'w bywydau. A'r hiraf yn y byd y bydd yr ysgolion yn aros ar gau, y mwyaf fydd y bwlch cyrhaeddiad hefyd—bydd hwn yn tyfu; does dim dwywaith am hynny. Mae yna wahaniaethu mawr yn barod, mi wneith o fynd yn waeth. Felly, hoffwn i heddiw glywed gan y Prif Weinidog y bydd y Llywodraeth yn rhoi ffocws clir ar gefnogi'r rhai sy'n cael eu gadael ar ôl oherwydd bod yr ysgolion ar gau.
Wrth gynllunio'r cyfnod nesaf, mae'n rhaid, hefyd, gyflwyno mesurau lliniaru cadarn ar gyfer y cyfnod trosiannol hir sydd o'n blaenau ni cyn bod pawb yn ôl yn llawn amser yn yr ysgolion. Mae'n rhaid gwneud pob ymdrech i ymgysylltu efo'r garfan fawr o'r rhain sy'n cael eu galw'n reluctant learners, y rhai sydd ddim yn ymgysylltu'n llawn efo'u haddysg mewn cyfnod arferol, ond sydd rŵan yn cael eu gadael ar ôl oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'w rheolaeth nhw.
Mae angen sicrhau bod pob un plentyn efo cysylltiad i'r we ac efo'r dechnoleg briodol. Mae angen i bob ysgol gynnal cysylltiad rheolaidd efo pob plentyn a'u hannog i ddefnyddio'r adnoddau ar-lein sydd ar gael. Ac yn greiddiol hefyd, mae angen dysgu o bell byw. Mae'n rhaid i hwn ddigwydd ar draws Cymru. Mae angen anogaeth cwbl glir gan Lywodraeth Cymru. Mi ddylai hi fod yn ddisgwyliad bod pob ysgol yn cyflwyno gwersi drwy ffrydio byw fel y ffordd fwyaf effeithiol o ennyn diddordeb y dysgwyr rheini sy'n cael eu gadael ar ôl ar hyn o bryd. Felly, gobeithio y medrwch chi roi ystyriaeth lawn i hyn.
I gloi, Llywydd, dwi'n credu, rydym ni i gyd yn credu, fod addysg yn hawl dynol sylfaenol. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth arwain a mynnu bod yr arfer da sy'n digwydd ar draws Cymru yn arfer da ymhob ysgol a phob dosbarth yn y cyfnod rhithiol yma, a bod pob ymdrech bosib yn cael ei gwneud i gynnal addysg o safon i bawb, ond yn enwedig y rhai sydd angen y gefnogaeth fwyaf yng nghyd-destun COVID-19.