Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 20 Mai 2020.
Diolch, Lywydd. Ar ôl mwy na saith wythnos o gyfyngiadau, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig fesurau yn ddiweddar i lacio’r cyfyngiadau symud yn Lloegr. Cafodd y llacio hwn ei groesawu gan lawer am ei fod yn nodi carreg filltir arwyddocaol ar y daith i ddychwelyd i normalrwydd. Mae strategaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnig ac yn nodi gweledigaeth glir ar gyfer y dyfodol.
Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu dogfen sy'n amwys ac nid yw'n cynnig fawr ddim eglurder i bobl Cymru. Yn lle amlinellu amserlen glir ar gyfer llacio’r cyfyngiadau, nid yw’n cynnwys y manylion sy'n hanfodol er mwyn rhoi'r hyder sydd ei angen yn daer ar bobl a busnesau yng Nghymru. Drwy beidio â gweithio ar y cyd â gweddill y Deyrnas Unedig i ddatblygu dull clir a chyson o lacio’r cyfyngiadau, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis ymroi i sgorio pwyntiau gwleidyddol. Y canlyniad yw dryswch ynghylch yr hyn y gellir ac na ellir ei wneud, yn enwedig i etholwyr yn ne-ddwyrain Cymru sy'n byw'n agos at y ffin.
Mae'r ffin o Gas-gwent i Gaer yn un eithaf hir, ac mae’n rhaid i'r Gweinidog sylweddoli bod pobl yn Lloegr yn cael cyfarfod ag un unigolyn o aelwyd arall yn yr awyr agored, os ydynt yn cadw 2m oddi wrth ei gilydd. Tybed, gyda ffin 100 milltir o hyd, sut y mae pobl—[Anghlywadwy.]—a gellir atal popeth. Hefyd, gall teuluoedd yrru cryn bellter i gyrchfannau fel parciau a thraethau. Fodd bynnag, ni allant deithio i Gymru, hyd yn oed os yw'r ffin yn agos. Mae pobl yng Nghymru mewn penbleth ac yn siomedig na chaniateir yr hyn a ganiateir yn Lloegr yng Nghymru.
Nid yw coronafeirws yn parchu hil, rhywedd, oedran na phriodoleddau personol, ond ymddengys bod gan Lywodraeth Cymru obsesiwn â'r ffin ac mae'n benderfynol o fod yn wahanol. Mae'r gwahaniaeth yn y dull o weithredu yn amlwg yn eu hymagwedd tuag at y farchnad dai. Nid yw'r ddogfen strategaeth hon ond yn cynnwys addewid i ymgynghori ar ganllawiau mewn perthynas â thai ac adeiladu. Yn Lloegr, mae gwerthwyr tai, cwmnïau symud a syrfewyr ymhlith gwasanaethau hanfodol y diwydiant tai sydd wedi cael caniatâd i ddychwelyd i'r gwaith. Caniateir i brynwyr a rhentwyr symud tŷ, a bellach, gall gwerthwyr tai ailagor gyda chanllawiau cadw pellter cymdeithasol llym ar waith. Yn ogystal, gall datblygwyr cartrefi newydd ailagor cartrefi arddangos, tra bo cynghorau lleol wedi cael eu hannog i gefnogi oriau gwaith estynedig ar safleoedd adeiladu am yr amser ychwanegol y mae'n ei gymryd i weithredu mesurau cadw pellter cymdeithasol diogel. Bydd ailddechrau gwaith yn chwarae rhan bwysig yn y broses o helpu i adfer yr economi, yn ogystal â darparu'r tai sydd eu hangen arnynt. Yng Nghymru, mae'r farchnad dai yn parhau i fod ar gau.
Lywydd, bydd manwerthwyr nwyddau dianghenraid yn Lloegr yn cael agor, yng ngham 1, ar 1 Mehefin, os ydynt yn dilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol. Bydd tafarndai, bwytai, siopau trin gwallt, gwestai, sinemâu ac addoldai yn agor o 4 Gorffennaf ar y cynharaf cyn belled â'u bod yn rhoi mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith. Mae canllawiau clir, sector-benodol yn hanfodol i sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau cadw pellter cymdeithasol a hylendid cyfredol os yw'r cyfyngiadau ar siopau a gwasanaethau i gael eu codi mewn dull rheoledig sy'n rhoi blaenoriaeth i sicrhau cyn lleied o risg o drosglwyddiad â phosibl mewn gweithgareddau a gwasanaethau.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i gyhoeddi unrhyw dystiolaeth i gefnogi ei strategaeth gyfredol a rhoi gwybod i fusnesau sut i gyflawni statws diogel o ran COVID-19 er mwyn caniatáu iddynt ailagor o fewn y canllawiau cyfredol. Bydd hyn yn achosi oedi a rhwystrau i fusnesau Cymru wrth iddynt ymdrechu i adfer. Diolch, Lywydd.